Mae cynhyrchwyr teledu Cymru wedi dweud eu bod nhw’n siomedig gyda bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i breifateiddio Channel 4.

Yn ôl cadeirydd TAC, y corff diwydiant ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, does yna ddim tystiolaeth i ddangos yr angen “am y symudiad eithafol hwn”.

Bydd preifateiddio’n mynd â Channel 4 i gyfeiriad “mwy masnachol, gan fygwth ei safle unigryw yn ecoleg y cyfryngau”, meddai Dyfrig Davies.

Wrth gadarnhau eu bod nhw’n bwriadu gwerthu’r sianel, dywedodd ysgrifennydd diwylliant San Steffan, Nadine Dorries, ei bod hi wedi dod i’r canlyniad bod “perchnogaeth y llywodraeth yn dal Channel 4 yn ôl rhag cystadlu yn erbyn cewri ffrydio fel Netflix ac Amazon”.

Colli buddsoddiadau yng Nghymru?

“Mae Channel 4 wedi galluogi datblygu sector cynhyrchu annibynnol ffyniannus ac mae ymchwil yn dangos bod Channel 4 wedi cyfrannu £20m yn 2019 at y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) yng Nghymru ac wedi cefnogi 200 o swyddi,” meddai Dyfrig Davies wrth ymateb.

“Mae buddsoddiad cychwynnol Channel 4 mewn cwmnïau cynhyrchu o Gymru yng ngogledd a de Cymru wedi eu galluogi i dyfu a datblygu eu busnesau.

“Gall hyn cael ei golli os yw’n gadael perchnogaeth gyhoeddus ac yn ailffocysu ar ailddosbarthu elw i berchnogion a chyfranddalwyr preifat.

“Gan edrych i’r dyfodol, bydd TAC yn ceisio sicrhau bod model cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4, sy’n gweithio gyda chymaint o gwmnïau cynhyrchu sefydledig a newydd ledled y Deyrnas Unedig, yn cael ei gadw.

“Mae angen i ni hefyd sicrhau nad yw Channel 4 yn dychwelyd i strwythur comisiynu sy’n canolbwyntio ar Lundain.

“Byddai parhau â’r strategaeth ‘4 All the UK’ yn cefnogi’r ymdrechion i sicrhau mwy o gynrychiolaeth ledled y Deyrnas Unedig ym maes teledu a chefnog anghydraddoldebau yn seiliedig ar leoedd.”

‘Fandaliaeth’

Mae’r Blaid Lafur yn dweud eu bod nhw’n siomedig gyda’r penderfyniad hefyd, gyda Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, yn dweud y byddai gwerthu’r sianel yn “economaidd anllythrennog”, yn “ddinistriol yn ddiwylliannol” ac yn ergyd i’r diwydiant cynhyrchu annibynnol.

“Dyw ei gwerthu’n arbed dim ar arian trethdalwyr, mae’n niweidio amrywiaeth greadigol ac yn tanseilio allforyn gwych Prydeinig,” meddai Chris Bryant.

“Mae’n fandaliaeth.”

‘Rhyddid i ffynnu’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Nadine Dorries fod gan Channel 4 le “gwerthfawr” ym mywyd Prydain a’i bod hi am i hynny barhau.

“Byddai newid perchnogaeth yn rhoi’r arfau a’r rhyddid i Channel 4 ffynnu fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ymhell i’r dyfodol,” meddai.

“Byddaf yn gosod y cynllun ar gyfer Channel 4 mewn Papur Gwyn yn y man.

“Byddaf yn ceisio ail-fuddsoddi’r elw o’r gwerthiant er mwyn codi’r gwastad yn y sector greadigol, rhoi arian mewn cynhyrchu annibynnol a sgiliau creadigol mewn rhannau o’r wlad sydd wedi’u blaenoriaethu – creu rhandal creadigol i bawb.”