Mae un o eiconau cyfres boblogaidd EastEnders wedi marw yn 95 oed. Non Tudur, sy’n gwylio’r gyfres ers y dechrau yn 1985, sy’n ei chofio…

Bu farw un o’r ‘Walford legends’ yr hen June Brown, yr actores afieithus a fu’n portreadu cymeriad Dot Cotton ar gyfres sebon EastEnders ar BBC1 am 35 mlynedd.

Buodd June Brown yn actio ar y gyfres rhwng 1985 ac 1993, ac yna rhwng 1997 a 2020. I wylwyr ffyddlon, roedd ‘Dot’ fel hen gymydog, yn ein diddanu â’i chonan a’i chlonc am yr holl flynyddoedd.

Fel y gwnaeth yr actor Harriet Lewis â’i chymeriad Magi ‘Post’ Mathias ar Pobol y Cwm, mi greodd June Brown eicon o gymeriad, sy’n bluen yn het y gyfres. Ymddangosodd mewn 2884 o benodau, a dangos i’r byd bod menywod dros eu deugain lawn mor ddifyr ac aml-haenog â rhywun hanner eu hoed.

Roedd hi’n actores o fri – a gwnaeth sawl golygfa gofiadwy iawn ar EastEnders, â sigarét yn ei llaw bron yn ddi-ffael. Un o’r penodau mwya’ dirdynnol oedd yr un gyda’i ffrind pennaf Ethel a honno yn ei chystudd olaf, yn erfyn ar Dot i roi tabledi iddi i’w helpu i farw. Roeddech chi’n credu pob gair, a’r cariad a’r galar yn fyw.

Duw yn gefn

Roedd ei Beibl yn bwysig iawn i Dot, a byddai’n dyfynnu ohono pob cyfle gâi, yn pwnio cydwybod eraill â’i hadnodau parod. Byddai’r geiriau yn gadael eu hôl; ni fyddai unrhyw un yn dadlau o ddifri gyda Dot. Roedd hi’n gweithio yn y tŷ golchi, yn ceisio dal dau pen llinyn ynghyd, â’i Duw yn gefn. Roedd ganddi ŵr godinebus, a dihiryn yn fab. Byddai Dot wastad yn edifarhau wrthyn nhw, â’i thrugaredd yn gwegian.

Wrth sgrifennu, mae dyn yn sylwi mai sgrifennu am Dot mae rhywun, nid am June Brown. Dyna gryfder ei dawn actio. Roedd hi wedi ein hargyhoeddi mai hi oedd Dot. A hi oedd yr unig actores a gafodd bennod gyfan ar ei phen ei hun, wrth recordio neges i’w hail ŵr, Jim Branning, a oedd mewn cartref gofal.

Diolch i sgriptiau sy’n gyson ragorol, gallech gymharu ei pherfformiadau ar sgrin â gwylio sioe un-ddynes theatrig o fri ar lwyfan. Mae rhywun byth a hefyd yn rhyfeddu at allu EastEnders i greu drama sy’n llorio rhywun. Y cyflwr dynol ac ymwneud pobol â’i gilydd sydd wrth wraidd bob un olygfa, boed drasig neu ddigri.

I Gymru yn ferch ifanc

Cafodd June Brown ei geni yn Suffolk, ac roedd ganddi linach Iddewig Seffardig ar ochr ei mam-gu (o Algeria, yr Iseldiroedd a’r Eidal), ac yn ddisgynnydd i baffiwr Iddewig enwog o’r enw Isaac Bitton.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn faciwî i bentref Pont-iets, Sir Gaerfyrddin. Mi roddodd EastEnders gefndir tebyg i Dot ei hun, a ffilmio pennod arbennig yn Nolgellau yn 2003, yn bwrw trem yn ôl ar fywyd Dot yng Nghymru yng ngofal ei ‘Auntie’ Gwen a’i ‘Uncle’ Will, a oedd yn cael eu portreadu gan Eve Myles a Dafydd Emyr.

Roedd June Brown yn actores o fri ac wedi cael hyfforddiant yn Ysgol Theatr yr Old Vic yn Llundain. Llwyddodd i roi sawl haen ddifyr i gymeriad Dot Cotton, a’i harbed rhag bod yn gymeriad stoc, yn ystrydeb o’r fenyw hŷn grotésg yr oedd y gyfres wedi bwriadu ei chreu ar y dechrau, gan arddel rhai eraill poblogaidd ar deledu’r cyfnod.

Daeth yr actor Gareth Potter i adnabod June Brown, pan fu’n actio ar EastEnders yn 1986. Roedd hi wastad yn barod am glonc, meddai, ac i rannu ei sigarets ag e.

“Menyw gyfeillgar ar y naw a wnaeth fy nghroesawu fi i deulu EastEnders ar fy niwrnod cyntaf. Ro’n i yn aml yn ei helpu hi i fynd dros ei llinellau,” meddai. “Roedd hi’n hollol down to earth a ffraeth, er ei henwogrwydd a’i statws eiconaidd.”

Fel Magi Post ar Pobol y Cwm, roedd Dot Cotton wedi ymuno â’r gyfres sebon reit o’r dechrau. Fel Magi Post, cafodd Dot Cotton ei henwi gan wylwyr mewn pôl piniwn fel eu hoff gymeriad. Yn wahanol i Harriet Lewis, cafodd June Brown ei hurddo yn MBE ac yn OBE gan y Frenhines.

Fore Llun, wedi i’r newyddion dorri am ei marwolaeth, galwodd un gwleidydd June Brown yn ‘true national treasure’. Mae hynny yn wir am Harriet Lewis fel Cymraes. Mae’r ddwy’r un mor bwysig. Y ddwy yn dod â chalon y gwir am y natur ddynol yn fyw ar y sgrin fach, a hynny am flynyddoedd lawer.