Cynnal safon arlwy gŵyl Amdani, Fachynlleth! fydd prif nod y trefnwyr wrth fynd ati i baratoi at y dyfodol, yn ôl cyd-drefnydd yr ŵyl.
Cafodd yr ail ŵyl lenyddol ei chynnal dros y penwythnos, a does gan y trefnwyr ddim diddordeb mewn tyfu a thyfu, meddai Charles Dark.
Teithio yw thema’r ŵyl, ac mae’r trefnwyr yn awyddus iddi gael ei chynnal yn flynyddol, gyda’r pwyslais ar yr agosatrwydd rhwng y perfformwyr a’r gynulleidfa.
Dros y penwythnos, cafwyd sgyrsiau gan gyfranwyr megis Manon Steffan Ros, Dr Rhian Parry, Rhys Mwyn, Dr Rebecca Thomas, Hywel Griffiths a Mike Parker yn y Wynnstay Arms a Senedd-dŷ Owain Glyndŵr ym Machynlleth, yn ogystal â pherfformiad a sgwrs arbennig gan Dafydd Iwan.
‘Cymysgedd dda’
Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal ym mis Tachwedd, ac roedd yn gyfle i ddathlu bywyd Jan Morris, ond y bwriad yw cynnal yr ŵyl bob mis Ebrill o hyn ymlaen.
Roedd y penwythnos yn un “arbennig”, meddai Charles Dark, sy’n berchen ar y Wynnstay Arms gyda’i wraig Sheila, wrth golwg360.
“Dim ond ein hail un ni oedd hwn, rydyn ni dal i ddysgu ond fe wnaethon ni ddechrau rhywbeth ac roedd pobol yn dweud ‘O na, mae e’n mynd i fynd yn fwy ac yn fwy ac yn fwy’.
“Rydyn ni’n siarad, a dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n mynd i fynd am niferoedd. Yr ansawdd sy’n bwysig, a chymysgedd eclectig da.”
Mae’r thema teithio yn un “eithaf eang”, meddai Charles Dark, ac mae’n cael ei dehongli’n fwy fel “y lle” yn hytrach na’r “siwrne”.
“Ni yw’r unig ŵyl sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth teithio, gallwn ni ei berchnogi,” meddai.
“Fe wnaeth e i gyd ddechrau llai na blwyddyn yn ôl pan ddaeth yna ysgrifennydd teithio o Rwsia i aros [yn y Wynnstay], dechreuon ni siarad, a daeth y syniad ar gyfer yr ŵyl o’r fan honno.
“Mae Machynlleth yn dref fach ond gallwn ni ymffrostio yn ein siopau llyfrau annibynnol.
“Rydyn ni’n ei gadw fo’n Gymraeg a Saesneg, y ddwy iaith, gan gyfeirio’n ôl at Gymru ble bynnag fo hynny’n bosib, ond nid yn unig.
“Gaethon ni sgwrs yn siarad am y byd Mwslemaidd y tro hwn, dyn yn siarad am bensaernïaeth ac roedd ganddo dipyn i’w ddweud am ddatblygiadau newydd yng Nghaerdydd ac ati. Mae’n gymysgedd dda o bobol.”
Agosatrwydd yr ŵyl
Roedd naws Gŵyl Gerddoriaeth Machynlleth yn ddylanwad ar Charles Dark a Diane Bailey, perchennog Penr’allt Books a chyd-drefnydd yr ŵyl.
“Rydyn ni’n cael cerddorion rhyngwladol yn dod i honno ac maen nhw’n aros yn y Wynnstay. Mae hi’n wythnos hyfryd achos mae hi ychydig fel house party,” eglura Charles Dark.
“Mae gennym ni gerddorion yno, pobol sy’n licio cerddoriaeth yn aros efo ni fel eu bod nhw’n cael mynd i’r cyngherddau… y gallu yna i gymysgu’r perfformwyr efo aelodau cyffredin o’r cyhoedd.
“Dyna be oedden ni’n weld oedd mor arbennig am yr ŵyl gerddoriaeth, felly wrth sefydlu’r ŵyl lenyddol, roedd hyn wastad ar ein meddwl.”
Yn ôl y siaradwyr yn yr ŵyl eleni, un o’r pethau roedden nhw’n ei werthfawrogi oedd agosatrwydd yn y lleoliadau a’r ffaith eu bod nhw’n gallu siarad ag awduron eraill a phobol sydd â diddordeb.
“Mewn rhai o’r gwyliau mawr, Gŵyl y Gelli er enghraifft, dyw hynny ddim wir yn digwydd,” meddai Charles Dark.
“Mae gennych chi’r artistiaid yn perfformio mewn un lle, a’r cyhoedd cyffredin ar wahân.
“Wrth i ni dyfu, rydyn ni’n gweld hi fel gŵyl ar gyfer awduron a darllenwyr. Mae hynny’n gwneud ni ychydig yn wahanol.
“Does gennym ni ddim lle yn y dref ar gyfer rhywbeth fyddai’n mynd yn rhy fawr.
“Dyna ein hathroniaeth, mae pobol yn mwynhau, mae e i weld yn gweithio.”