Mae casglu a dehongli enwau ffermydd a chaeau yn gallu datgelu gwybodaeth newydd am hanes, diwylliant a thiroedd ardaloedd, meddai Dr Rhian Parry.
Yn ôl yr hanesydd, mae edrych ar glystyrau o fân enwau gyda’i gilydd yn dadlennu hanesion “hollol newydd a gwahanol” inni.
Dros y penwythnos hwn, bydd hi’n cymryd rhan yng ngŵyl Amdani, Fachynlleth gan drafod enwau caeau Ardudwy a’r cyfrinachau maen nhw’n eu datgelu am hanes yr hen gwmwd a thu draw.
Bydd y sgwrs gyda’r Athro Gruffydd Aled Williams yn cyd-fynd â chyfrol newydd Dr Rhian Parry, Cerdded y Caeau.
Dechreuodd hi wneud ei hymchwil wrth wneud ei doethuriaeth efo’r Athro Gwyn Thomas ym Mhrifysgol Bangor, gan edrych ar Ardudwy, sef yr hen gwmwd oedd yn ei fri yn Oes y Tywysogion.
“Mae o’n gwmwd reit fawr, ryw 14 plwyf, o Aberglaslyn i lawr i Bermo, ac ar draws o Harlech i gyrion plwyf Trawsfynydd a Phenllyn,” eglura wrth golwg360.
“Be’ wnes i oedd cychwyn efo’r Degwm, a chreu cronfa ddata o ryw 15,000 o enwau – ffermydd a chaeau, mân enwau ydy fy niddordeb i.
“Mi wnes i wedyn eu mapio nhw. Roedd gen i gopïau o fapiau degwm o’r cwmwd i gyd, ac fe wnes i liwio nhw mewn bob yn ddarn, a nodi enwau’r caeau ar y mapiau.
“Mewn ffordd, dyna’r funud eureka lle gwnes i sylweddoli bod clystyrau o enwau efo’i gilydd yn cyfleu rhywbeth hollol newydd a gwahanol i astudio un enw.
“Fedrwch chi olrhain yr enwau yma’n ôl i Stent Meirionnydd yn 1420 sy’n enwi tiroedd Ardudwy i gyd.
“Fy niddordeb i ydy gwybod be’ mae’r enwau’n gallu eu datgelu am yr hanes a’r diwylliant a’r dirwedd.
“Dydy o ddim yn astudiaeth ieithyddol, fel petai. Cymeriad tirwedd sydd gen i, ac ein hunaniaeth.”
Arwyddocâd yr enwau
Mae Dr Rhian Parry wedi gwneud rywfaint o waith ar ddaeareg ac archeoleg, ac roedd hynny i gyd yn cysylltu â’r tirwedd, meddai.
Y bwriad wedyn oedd cysylltu hynny efo’r enwau “i weld oedd yna rywbeth i’w ddysgu, a be’ oedd yn arwyddocaol yn yr enwau yma”.
“Roedd yr enwau wedi cael eu dewis yn ofalus iawn, wedyn roedden nhw’n dweud pob math o bethau i chi am yr hanes, ac yn disgrifio defnydd amaethyddol o’r tir, digwyddiadau, lliwiau, llystyfiant, gwaith a lleoliadau,” meddai.
“Mae yna enwau sy’n perthyn i wahanol haenau o gyfnodau, mae yna rai’n mynd yn ôl i Oes y Tywysogion, rhai’n perthyn i gyfnod codi’r castell yn Harlech ac enwau estron yn dod i fan honno.
“Mae yna enwau sy’n ymwneud â gwaith crefftwyr a hanesion o bob math, yn enwedig hanes yr amaethyddiaeth yn y cwmwd. Sut oedd ffermwyr yn amaethu ar hyd y cenedlaethau.
Mae Cerdded y Caeau fel “rhyw fath o ddyddiadur” o gyfnod cwblhau’r ymchwil a’r darganfyddiadau i’w rannu gyda’r gymuned drwy nifer o weithgareddau.
Dr Rhian Parry oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith ymchwil i gyfres Caeau Cymru, a chyd-gyflwynodd y gyfres gyda Brychan Llŷr.
Defnyddiodd yr un fethodoleg o gasglu enwau caeau i ddatgelu hanesion gwahanol rannau o Gymru wrth greu’r gyfres.
“Roedd yna ddeuddeg rhaglen, pob un yn ffocysu ar un fferm ac ar enwau’r fan honno,” meddai.
“Roedden ni’n defnyddio’r un dull o fynd ati i ddatgelu’r hanes mewn llefydd hollol ddiarth i mi ac roedd o’n gweithio.”
Codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd enwau
Ers hynny, mae hi wedi bod yn arwain prosiect Adnabod Ardudwy i Gymdeithas Hanes Sir Feirionydd, sydd wedi bod yn gyfle i rannu’r wybodaeth am y cwmwd.
Mae hi wedi bod yn hwyluso dau brosiect i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru hefyd, y cyntaf, Gwarchod, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau.
“Yn rhan o hynny, fe wnaethon ni roi tystiolaeth i’r Senedd er mwyn trio perswadio nhw i roi cymal yn y Ddeddf Amgylchfyd Hanesyddol 2016,” meddai.
“Fe wnaethon nhw wrthod. Colli enw, colli hanes. Ond mae sawl un yn dal yn gweithio i’r cyfeiriad hwnnw.”
Mae ail brosiect, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn golygu cydweithio gyda chymunedau, cymdeithasau a sefydliadau i gasglu a hyrwyddo enwau lleoedd.
“Rydyn ni wedi bod yn helpu efo enwau ar hyd llwybr arfordir Môn, lle rydyn ni wedi bod rhoi 269 o fân enwau ar bob polyn sydd o gwmpas yr ynys ar y llwybr,” meddai.
“Rydyn ni wedi bod yn casglu enwau ponciau yn y chwareli, Chwarel Penrhyn, Bethesda, a Dinorwig hefyd drwy gyd weithio efo Menter Fachwen.
“Mae yna beth wmbreth o waith yn mynd yn ei flaen. Mae pob enw a gasglwn yn mynd i’n map digidol.
“Bydd hwnnw’n mynd yn gyhoeddus eleni.”
- Bydd gŵyl ddwyieithog Amdani, Fachynlleth yn cael ei chynnal rhwng Ebrill 1 – 3 gan roi llwyfan i amrywiaeth o artistiaid, beirdd, awduron, a cherddorion yn Y Wynnstay ym Machynlleth ac yn Senedd-dŷ Owain Glyndŵr. Mae’r siaradwyr eraill yn cynnwys Rhys Mwyn, Manon Steffan Ros, Rebecca Thomas, Hywel Griffiths, a Mike Parker, a bydd perfformiad gan Dafydd Iwan ar nos Sadwrn (Ebrill 2).