Bydd banciau bwyd dros Gymru’n darparu llyfrau plant i deuluoedd o’r gwanwyn hwn.

Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgyrch ‘Rhoi Llyfr yn Anrheg’, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflenwi dros 40,000 o lyfrau i fanciau bwyd, sefydliadau cymunedol, a grwpiau lleol eraill.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r Cyngor Llyfrau wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd ‘Rhoi Llyfr yn Anrheg’ gyda grwpiau dethol megis teuluoedd, gofalwyr ifanc a phlant sy’n derbyn gofal.

Dywed arweinydd rhwydwaith y Trussell Trust, sy’n rhedeg banciau bwyd, fod y fenter wedi galluogi banciau bwyd i ddarparu llyfrau i deuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd fforddio llyfrau plant fel arall.

“Rydym mor ddiolchgar am y miloedd o lyfrau a ddarparwyd ar gyfer ein banciau bwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru,” meddai Susan Lloyd-Selby.

“Roedd ansawdd ac amrywiaeth y llyfrau a ddarparwyd yn wych ac mae wedi bod yn hyfryd clywed pa mor gyffrous mae’r plant wedi bod i dderbyn eu llyfrau.

“Y llynedd, darparodd banciau bwyd y Trussell Trust dros 54,000 o barseli bwyd brys i blant yng Nghymru.

“Nid yw’n iawn i unrhyw un orfod dibynnu ar fanc bwyd, ac mae’r fenter hon wedi helpu i sicrhau bod plant y mae eu teuluoedd yn cael trafferthion ariannol yn gallu elwa ar y pleser a geir o ddarllen.”

‘Croeso mawr i’r llyfrau’

Ychwanega Tom Mogford, Cydlynydd Aelodau Bwyd Cymunedol, FareShare Cymru, bod yr adborth i’r rhaglen wedi bod yn “wych”.

“Mae llawer wedi sôn am y croeso mawr a roddwyd i’r llyfrau hyn, gyda llawer o blant a rhieni hapus,” meddai.

“I deuluoedd na fyddent fel arall yn gallu fforddio neu gael mynediad at lyfrau fel hyn, roedd yn anrheg i’w chroesawu’n fawr.

“Rydym yn ddiolchgar am y rhodd gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac ar ran ein haelodau a’u cymunedau, hoffem ddiolch yn fawr i bawb fu’n gysylltiedig â gwireddu’r cynllun!”

‘Llyfrau o ansawdd uchel’

Cam nesaf y buddsoddiad ‘Rhoi Llyfr yn Anrheg’ fydd rhoi llyfr i bob dysgwr rhwng tair ac 16 oed drwy bob ysgol wladol yng Nghymru, a rhoi detholiad arbennig o lyfrau i lyfrgelloedd ysgolion.

Dywed Shoned Davies, Rheolwr Caru Darllen Ysgolion Cyngor Llyfrau Cymru, ei bod hi wedi bod yn wych cael cydweithio efo’u partneriaid yn y Trussell Trust, FareShare Cymru, y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol, a nifer o grwpiau cymunedol eraill sy’n dosbarthu llyfrau i blant a phobol ifanc ledled Cymru.

“Dewiswyd y llyfrau hyn, sydd i gyd yn llyfrau o ansawdd uchel, o blith y llyfrau gan gyhoeddwyr yng Nghymru a werthodd orau i gynnwys ystod eang o ran oedran, pynciau a theitlau fel y gall pawb ddewis y llyfr iawn ar eu cyfer nhw,” meddai.

“Hoffem ddiolch i’r holl gyhoeddwyr sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y llyfrau hyn ar gael i blant ledled Cymru eu mwynhau.”

‘Tanio’r angerdd’

Nod y cynllun Caru Darllen Ysgolion yw sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru’n cael mynediad cyfartal at ystod amrywiol o lenyddiaeth o safon, yn y Gymraeg a Saesneg.

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, fod darllen yn “sgil sylfaenol ym mron pob agwedd ar fywyd”.

“Rwyf am danio’r angerdd tuag at ddarllen ar gyfer ein holl blant a theuluoedd,” meddai.

“Drwy’r cynllun cyffrous hwn i roi llyfr yn anrheg, fel rhan o’r buddsoddiad ychwanegol o £5m gan Lywodraeth Cymru, rwyf am sicrhau bod gan bob dysgwr yng Nghymru ei lyfr ei hun i’w gadw.”