Côrdydd yw pencampwyr cystadleuaeth Côr Cymru 2022.

Cafodd rownd derfynol y gystadleuaeth ei chynnal yn fyw yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth neithiwr (nos Sul, Ebrill 3).

Y côr o Gaerdydd, dan arweiniad Huw Foulkes, ddaeth i’r brig gan guro pedwar côr arall i ennill tlws Côr Cymru a gwobr ariannol o £4,000.

Morgan Jones a Heledd Cynwal fu’n cyflwyno’r noson, ac CF1, Côr Ieuenctid Môn, Johns’ Boys a Chôr Heol y March oedd y pedwar côr arall a enillodd eu categorïau i gyrraedd y rownd derfynol.

Dyma’r degfed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ers iddi gael ei sefydlu yn 2003, a chafwyd perfformiad arbennig gan ferch fach saith oed o Wcráin hefyd.

“Llongyfarchiadau mawr i Côrdydd am ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2022,” meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C ar Twitter.

“Pum côr ardderchog – am gystadleuaeth.

“Braint oedd cael cwmni Amelia Anisovych, merch saith oed o Wcráin, yn Aberystwyth heno hefyd.”

‘Breuddwyd cael perfformio’

Cafodd fideo o Amelia Anisovych yn canu ‘Let It Go’ o’r ffilm Frozen mewn lloches danddaearol yn Kyiv ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a theithiodd i Aberystwyth er mwyn canu yng nghystadleuaeth Côr Cymru.

“Dwi wrth fy modd yn canu, a dwi’n ymarfer bob bore, pnawn a nos!” meddai Amelia Anisovych.

“Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i fi gael perfformio.”

‘Uno perfformwyr’

Dywed Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C ei bod hi’n “fraint arbennig” cael croesawu Amelia i Gymru ac i ganu yn Aberystwyth.

“Mae wedi bod yn benwythnos o gerddoriaeth bwerus ar S4C gyda Chyngerdd Cymru ac Wcrain a ffeinal Côr Cymru ac rydyn ni’n falch o gael uno perfformwyr Cymru ac Wcrain gan ymfalchïo yn nhalent Amelia,” meddai.