Fe fydd yna fwrlwm ar strydoedd Caerdydd heno (nos Wener, Ebrill 1) wrth i ŵyl 6 Music gicio off yn y ddinas, gan bara tan ddydd Sul (Ebrill 3).

Bu i’r Manics Street Preachers eisoes chwarae gig yn rhan o’r arlwy ddoe, ond heddiw mae’r ŵyl yn cychwyn yn swyddogol.

Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos, gyda digwyddiadau Gŵyl Radio 6 yn ystod y dydd yn cael eu cynnal yn y Tramshed a digwyddiadau’r nos yn Neuadd Dewi Sant, y Neuadd Fawr a’r Plas.

“Yr elfen fwyaf cyffrous am yr Ŵyl Gerdd yw gallu dod a’n gwrandawyr annwyl, staff yr orsaf, a’r artistiaid rydym yn eu caru ynghyd,” meddai Mary Anne Hobbs, un o gyflwynwyr 6 Music mewn datganiad.

“Mae cyfnodau clo wedi ein cadw ni ar wahân ers 2020, felly mae gigs eleni yng Nghaerdydd yn mynd i deimlo’n arbennig.”

“Lein-yp anhygoel”

“Mae e’n amazing, mae’r lein-yp yn anhygoel,” meddai Huw Stephens wrth golwg360.

“Mae yno bob math o enwau diddorol ar y rhestr ac mae e’n lein-yp sy’n adlewyrchu’r hyn mae 6 Music i gyd amdano, sef enwau mawr o’r gorffennol fel y Pixies ac enwau newydd, pobol sydd wedi torri drwodd fel Little Simz sydd yn headline-io Neuadd Dewi Sant.

“Ac mae’r ffaith bod yno gymaint o artistiaid o Gymru ar y lein-yp fel Gruff Rhys, Deyah, Carwyn Ellis, Gwenno yn wych hefyd.

“Ac mae 6 Music, fyswn i’n hoffi dweud, yn briliant am chwarae miwsig iaith Gymraeg hefyd, yn hollol naturiol yn aml ar raglen Gideon Coe, Mark Riley ac wrth gwrs Cerys Matthews.

“Felly mae’n wych bod e’n dod i Gaerdydd.

“Bydd 6 Music yn darlledu’n fyw o Gaerdydd dros y penwythnos a gan bod y lein-yp mor enfawr, bydd yno lot o bobol yn gwrando ar y radio yn ogystal â mynd i’r ŵyl.

“Mae pawb draw yn 6 Music yn rili excited, ddaru ni gyhoeddi’r line up ddoe ac mae’r DJs i gyd wrth eu boddau achos maen nhw’n cael dod i weld bandiau maen nhw wedi bod yn chwarae ar y radio a gweld gwrandawyr 6 Music yn yr adeilad, mewn ystafell gyda’i gilydd.”

Gwyl Ymylol

Ynghyd â’r digwyddiad, mae Cymru Greadigol wedi ymuno â lleoliadau a cherddorion lleol i greu’r Ŵyl Gerdd Ymylol.

Dechreuodd gigiau gael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y ddinas ar Fawrth 28 a byddan nhw’n para tan Ebrill 3.

Yn ogystal, mae Cymru Greadigol wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Caerdydd Creadigol a Phrifysgol De Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y dydd.

“Mae’r Fringe Gig yn rhan bwysig iawn o’r holl beth cyn yr ŵyl,” meddai Huw Stephens wedyn.

“Mae yno gigs yn digwydd o amgylch Caerdydd lle bydd lot o fandiau yn chwarae, fel Breichiau Hir, Adwaith a Los Blancos er enghraifft felly mae lot yn digwydd!”