Mae’r Manic Street Preachers, y band o’r Coed Duon, wedi cynnal gig yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd o’r diwedd.

Roedd disgwyl iddyn nhw berfformio yno yn 1990, ond bu’n rhaid iddyn nhw dynnu’n ôl ddyddiau’n unig cyn y noson er mwyn mynd i Lundain i lofnodi cytundeb recordio.

Ond 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach, maen nhw wedi cynnal gig ar ddechrau Gŵyl 6 Music y penwythnos hwn.

Chwaraeon nhw nifer fawr o’u caneuon mwyaf adnabyddus, a rhai nad oedden nhw erioed wedi’u perfformio nhw o’r blaen, gan gynnwys eu fersiwn eu hunain o ‘Borderline’ gan Madonna, ‘His Last Painting’ o’r albwm ‘Know Your Enemy’.

Fe wnaethon nhw berfformio ‘Blank Diary Entry’, cân oedd yn ddeuawd gyda Mark Lanegan ar eu halbwm newydd ‘The Ultra Vivid Lament’, fel teyrnged i gyn-ganwr Screaming Trees fu farw’n ddiweddar.

Hefyd ar y llwyfan gyda nhw roedd y gantores o Gaerdydd, Gwenno, ac fe wnaethon nhw berfformio ‘Spectators of Suicide’ oddi ar yr albwm ‘Generation Terrorists’.

‘Tir cysegredig’

Mae Nicky Wire, basydd y band, wedi disgrifio Clwb Ifor Bach fel “tir cysegredig”.

Fe fu’n siarad â Huw Stephens ar ei raglen radio ar 6 Music am y profiad o gael chwarae yn y lleoliad yn y brifddinas am y tro cyntaf.

“Profiad cyntaf yw hwn i fi, dw i erioed wedi bod yma o’r blaen,” meddai.

“Yng Nghaerdydd, dw i’n meddwl ein bod ni i fyny i 12 o leoliadau gwahanol, o’n gig gyntaf yn Chapter, siŵr o fod yn ’88 – 34 neu 35 o flynyddoedd yn ôl – reit drwodd i Stadiwm Principality.

“Ond dydyn ni erioed wedi gwneud yr un yma – mae hwn yn rhyw fath o dir sanctaidd.”

Wrth siarad â Huw Stephens y tu allan i Neuadd Dewi Sant, eglurodd Nicky Wire fod y lleoliad wedi ysbrydoli enw’r band.

“Dywedodd rhywun wrth James [Dean Bradfield, y canwr], ‘Rwyt ti’n edrych fel manic street preacher!

“Mae’n hysbys fod Steve Albini wedi cerdded heibio unwaith ac wedi gwgu arnon ni gan ein bod ni’n gwneud lot o ganeuon June Brides. Dywedon ni wrtho fe pan wnaethon ni weithio gyda fe ar Journal for Plague Lovers, a dywedodd e, ‘Ie, mae hynna’n swnio fel fi!

Y set

Dyma’r set yn ei chyfanrwydd:

  • Motorcycle Emptiness
  • From Despair to Where
  • His Last Painting
  • You Stole the Sun from My Heart
  • Still Snowing in Sapporo
  • Year of Purification
  • Your Love Alone Is Not Enough
  • Everything Must Go
  • Blank Diary Entry (teyrnged i Mark Lanegan)
  • If You Tolerate This Your Children Will Be Next
  • Methadone Pretty
  • The Secret He Had Missed
  • Spectators of Suicide – gyda Gwenno
  • Borderline (gan Madonna)
  • You Love Us
  • A Design For Life

Mae’r ŵyl yn dechrau go iawn heno (nos Wener, Ebrill 1) ac yn para tan ddydd Sul (Ebrill 3).

Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio mae Little Simz, Khruangbin, Father John Misty a Cherddorfa Genedlaethol y BBC, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr, Pixies, Art School Girlfriend, audiobooks, beabadoobee, Big Joanie, Carwyn Ellis a Rio 18, Cat Power, Curtis Harding, David Holmes, Deyah, Elkka, Emma-Jean Thackray, Ezra Collective, Georgia Ruth, Green Gartside, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline, Ibeyi, Ibibio Sound Machine, aelodau o Ladies of Rage, Lucy Dacus, Mykki Blanco, Obonjayar, Orlando Weeks, OVERMONO, Porij, Self Esteem, Sherelle, Sports Team, The Bug Club, The Mysterines, Wet Leg a mwy.