Mae’r siop Gymraeg ar Faes Caernarfon sy’n berchen i gwmni Sain yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed heddiw (dydd Gwener, Ebrill 1).
Yn ogystal â’r ffyddloniaid sy’n dod i mewn yn wythnosol, os nad yn feunyddiol, mae’r siop yn denu twristiaid oherwydd ei safle amlwg ger y castell, a rheiny’n rhyfeddu at Gymreictod y siop fach.
“Maen nhw’n mesmerised fod gan y Cymry Cymreig eu siop eu hunain, eu hiaith eu hunain, a chynnyrch sydd ond yn ein hiaith ni,” meddai Bethan Wynne, rheolwr y siop.
“Maen nhw’n dod yma i chwilio am fagned, er enghraifft, ac yn mynd oddi yma, wedi dychryn faint o bethau Cymraeg sydd yma, a’n clywed ni’n siarad.
“Dydyn ni ddim yn troi i Saesneg o gwbl. Maen nhw’n dychryn a dweud, ‘oh, your books are all in Welsh!’”
Cafodd y siop ei hagor gan Gwmni Sain o Landwrog ar Ebrill 1, 2002 fel siop benodol i werthu popeth Cymraeg a Chymreig o dan un to yng Nghaernarfon.
Ar y llaw dde wrth y drws, mae wal o lyfrau Cymraeg, a nwyddau plant a phethau Cyw ymhellach draw. Ar y wal gyferbyn, mae’r CDs, a silffoedd yn drymlwythog o nwyddau Cymraeg i’r cartref.
“Rydan ni’n gweld ein hunain fel y siop Gymraeg, sy’n gwerthu pethau Cymraeg a Chymreig,” meddai Bethan Wynne.
“Rydan ni’n gorfod addasu yn ôl amser a’r hyn mae pobol yn gofyn amdano fo. Er enghraifft, pan oedden ni’n agor, roedd yna gasetiau awdio a fideos, ond mae’r rheiny wedi mynd. Mae yna DVDs a CDs yma, sy’n marw i lawr ychydig bach, ac rydan ni’n gorfod rhoi mwy o nwyddau cartref i gymryd lle’r rheiny.”
Yn uniaith Gymraeg bydd enwau’r nwyddau ar y silffoedd, yn ôl Bethan Wynne.
“Dydyn ni ddim yn rhoi dim byd yn Saesneg,” meddai.
“A phan rydan ni’n cael staff newydd, mae pawb yn gorfod dweud ‘helo’ a gofyn sut mae rhywun gan siarad Cymraeg, ac addasu’r ffordd rydan ni’n ateb os nad ydan nhw’n siarad Cymraeg.”
Atyniad arall yn y siop yw’r gwasanaeth argraffu personol.
“Os ydach chi eisio mỳg efo llun Taid arno fo ar ei ben-blwydd, rydan ni’n gallu gwneud hynna – rhywbeth sy’ ddim ar gael ym mhob man arall,” meddai.
Dod “yn unswydd” o Gaerdydd i brynu cardiau
Rai blynyddoedd yn ôl, mi wnaethon nhw ymestyn cefn y siop i greu stafell fach ar gyfer y cardiau cyfarch.
“Mae yna bobol hyd heddiw yn dod yma am y tro cynta’, wedi dychryn faint o gardiau sydd yma,” meddai Bethan Wynne.
“Mae yna rai yn dod yma o Gaerdydd yn unswydd bob mis i nôl cardiau. Oes – mae yna un ledi yn dod yma o Gaerdydd yn ddi-ffael bob mis ac yn mynd yn ôl efo bwndal mawr.”
Gyda dyfodiad y We a’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r siop wedi ceisio addasu gyda’r oes a chynnig gwasanaeth digidol.
“Mae o’n gyfuniad o bob dim – y drws agored a’r wefan,” meddai Bethan Wynne.
“Mae’r wefan wedi datblygu llawer iawn yn yr 20 mlynedd, ac mae Covid wedi bod yn help i ni o ran hynny. Roedd pobol yn eu panig eisiau cael nwyddau Cymraeg… Ac roedd pobol o bob man yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y nwyddau. Roedden nhw yn eu tŷ nhw o fewn deuddydd, dri.
“Mae lot o bobol leol yn cymryd mantais o hynny, ac maen rheiny’n dod yn ôl rŵan yn ara’ bach, efo’r drws yn agored ar ôl Covid.”
Fe fydd rhai yn dod i’r siop am glonc, rhywbeth a fyddai’n digwydd llawer iawn cyn dyddiau Covid, yn ôl Bethan Wynne.
“Byddai pobol yn dod, ac yn eu clystyrau bach yn cael sgwrs eu hunain, ac yn dweud, ‘o, mae so and so yma rŵan’ a byddai’r sgwrs yn mynd yn ei blaen yn braf,” meddai.
“Mae ganddon ni’n regulars, sydd yma bron yn ddi-ffael bob wythnos. Mae yna rai yn galw mewn jest i ddweud ‘helo’ bob dydd.”
Methu dathlu oherwydd Covid a gŵyl Unboxed
Dyw Na-Nôg ddim wedi gallu trefnu dathliad cyhoeddus oherwydd ansicrwydd Covid.
Ond mae hynny yn ffodus, yn ôl Bethan Wynne, gan bod offer technegol sioe fawr gyntaf yr ŵyl Brydeinig ‘Unboxed’ yn llenwi’r Maes ar hyn o bryd, tan Ebrill 4.
“Doedden ni ddim yn gwybod be’ oedd y sefyllfa efo Covid, ond trwy lwc dydyn ni ddim wedi gwneud oherwydd bod hyn yn digwydd y tu allan,” meddai.
“Mi wnaethon ni gymryd y Maes drosodd 10 mlynedd yn ôl, ac 20 mlynedd yn ôl. Roedd yna bobol di-ri yma, ac roedd ganddon ni Peppa Pinc, Sam Tân, a Sali Mali a rhyw bethau felly, a Dafydd Iwan yn canu yma, cyflwynwyr Champion… roedd y lle yma yn chock-a-block.”