Mae cost gwresogi cartrefi wedi dyblu mewn 18 mis, yn ôl yr elusen tlodi tanwydd National Energy Action.
Mae cynnydd sylweddol mewn biliau ynni domestig wedi dod i rym, gydag elusennau’n rhybuddio y bydd 2.5m yn fwy o aelwydydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi.
Mae’r cap ar brisiau ynni i’r rhai ar dariffau diofyn sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol yn codi £693 o £1,277 i £1,971 o heddiw (Ebrill 1).
Bydd cwsmeriaid rhagdalu yn wynebu cynnydd mwy, gyda’u cap ar brisiau yn codi £708, o £1,309 i £2,017.
Mae ffactorau amrywiol wedi arwain at gynnydd yn y galw am olew a nwy ac yn golygu bod cyflenwyr wedi gorfod talu mwy i brynu tanwydd, cost sydd bellach yn cael ei hymestyn i gwsmeriaid.
Rhybuddiodd National Energy Action (NEA) fod cost gwresogi cartref cyffredin bellach wedi dyblu mewn 18 mis, gan adael 6.5, o aelwydydd yn methu byw mewn cartref cynnes ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Cyngor ar Bopeth na fyddai tua phum miliwn o bobol yn gallu talu eu biliau ynni o fis Ebrill ymlaen, hyd yn oed gyda’r gefnogaeth y mae’r llywodraeth eisoes wedi’i chyhoeddi.
Rhybuddiodd y byddai’r nifer hwn bron yn treblu i un ym mhob pedwar o bobol yn y Deyrnas Unedig – mwy na 14m – pe bai’r cap ar brisiau yn codi eto ym mis Hydref yn seiliedig ar ragfynegiadau cyfredol.
Dywed y Fonesig Clare Moriarty, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth, nad yw’r “gefnogaeth a gyhoeddwyd hyd yma gan y llywodraeth yn ddigon i’r rhai a fydd yn cael eu taro galetaf”.
‘Sialens enfawr’
“Rydym yn gwybod y bydd y cynnydd hwn yn peri pryder mawr i lawer o bobol,” meddai llefarydd ar ran y rheoleiddiwr ynni Ofgem.
“Mae’r farchnad ynni wedi wynebu sialens enfawr oherwydd y cynnydd digynsail ym mhrisiau nwy byd-eang, a rôl Ofgem fel rheoleiddiwr ynni yw sicrhau, o dan y cap ar brisiau, mai dim ond ar sail gwir gost cyflenwi trydan a nwy y gall cwmnïau ynni godi pris teg.
“Mae Ofgem yn gweithio i sefydlogi’r farchnad ac yn y tymor hir byddwn yn ceisio arallgyfeirio ein ffynonellau ynni, a fydd yn helpu i ddiogelu cwsmeriaid rhag ergydion prisiau tebyg yn y dyfodol.”
“Ofn”
Wrth ymateb, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Mae gen i ofn gwirioneddol am lawer o’m hetholwyr ar hyn o bryd.
“Gwn fod nifer ohonynt eisoes yn ei chael hi’n anodd, ac mae’n gwbl dorcalonnus clywed straeon am rieni’n gorfod dewis bwydo eu hunain neu eu plant, neu rhwng gwresogi a bwyta.
“Bydd y cynnydd diweddar mewn prisiau yn gwthio rhai teuluoedd dros yr ymylon, ac mae’n rhwystredig nad yw San Steffan yn fodlon gweithredu.
“Wnaeth Rishi Sunak ddim byd yn ei ddatganiad gwanwyn i fynd i’r afael â’r eliffant yn yr ystafell, sef prisiau ynni uchel.
“Mae’n anghredadwy bod y Ceidwadwyr yn dal i wrthod cyflwyno treth ffawdelw (windfall tax) ar gwmnïau olew a nwy.
“Nid yw’r cwmnïau hyn yn ei chael hi’n anodd, ond yn hytrach maent yn gwneud eu helw mwyaf ers degawdau tra bod y cyhoedd yng Nghymru’n dioddef.
“Ond nid dyna’r unig beth y gallai’r Ceidwadwyr ei wneud hyd yn oed.
“Gallent leihau neu ddileu TAW ar filiau ynni, neu ychwanegu olew gwresogi ac LPG at y cap ar brisiau ynni, ond maent yn gwrthod.
“Fel pe na bai’r diffyg gweithredu yn ddigon, fe wnaeth y Ceidwadwyr daro’r cyhoedd yng Nghymru gyda chynnydd treth o ran taliadau yswiriant gwladol.
“Mae hyn ond yn dangos pa mor ddigyswllt y maent wedi erbyn hyn.”