Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £227m o gyllid dros y tair blynedd nesaf er mwyn hybu economi wledig Cymru.

Yn ôl Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, bydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod Cymru’n ymateb i newid hinsawdd yn gynt, yn wyrddach ac yn decach.

Ychwanega fod y cyllid yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn cau yn 2023.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:

  • Rheoli tir ar raddfa ffermydd − camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein.
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd − gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy.
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd – helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol.
  • Rheoli tir ar raddfa’r dirwedd – mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau.
  • Coetiroedd a choedwigaeth – cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi’r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren.
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio – creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Ychwanega Lesley Griffiths fod cynlluniau sydd werth cyfanswm o £100m naill ai’n dechrau ar unwaith neu’n cael eu lansio yn ystod yr wythnosau nesaf i gefnogi’r themâu hyn, gyda mwy i ddod wrth i’r gwaith dylunio manwl barhau.

Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i wella adnoddau naturiol ar ffermydd ac i helpu ffermwyr i droi at systemau cynhyrchu organig.

Yn y cyfamser, mae trafodaethau gyda Phlaid Cymru i gyflawni ymrwymiadau o fewn y Cytundeb Cydweithredu yn parhau.

Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a thrwy ddulliau amaeth-goedwigaeth a ‘gwrychoedd ac ymylon’, ac edrych ar ffyrdd o ddenu buddsoddiad ar gyfer creu coetiroedd sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.

‘Cyllid sylweddol’

“Mae’n heconomi wledig yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Mae’n darparu’r bwyd o safon rydyn ni’n ei fwyta, yr adnoddau naturiol rydyn ni’n eu mwynhau, ac yn cynnal cymunedau a bywoliaethau ledled Cymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Rydyn ni’n gwybod bod yr economi honno’n dal i wynebu sawl her, yn enwedig y newid yn yr hinsawdd sy’n bygwth ein tir, sy’n effeithio ar ansawdd dŵr ac aer, ac sy’n rhoi mwy o bwysau ar fioamrywiaeth.

“Rydyn ni eisiau cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ffermwyr Cymru, ac rydyn ni eisiau i’n cymunedau gwledig ni gael dyfodol gwyrdd a chynaliadwy.

“Mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i gefnogi’r nodau hyn.

“Ni all economi wledig gref ond fod o fudd i’n cymunedau gwledig ni.

“Bydd y cyllid sylweddol rwyf yn ei gyhoeddi yn allweddol i gefnogi ein ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd i hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gwrdd â’r heriau sydd o’n blaen, gan gefnogi cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen i gefnogi’r economi wledig ar y llwybr at Gymru sero net sy’n bositif i fyd natur.”