Gyda ffanfer bychan cyhoeddwyd enw newydd bar yfed yr Eisteddfod Genedlaethol.  Eisteddfod yr unfed ganrif ar hugain, Eisteddfod gyfoes ôl-Covid ac Eisteddfod sydd wedi, ac a fydd yn addasu am nifer o resymau.  Felly syniad da yw dod â newydd-deb i’r sefydliad, cyflwyno delwedd ychydig yn wahanol a dewis ambell enw newydd gan gynnwys un ar gyfer bar y Maes.

Ac i gael enwau newydd mae hi wastad yn syniad da gofyn i’r cyhoedd, tynnu pobol i mewn i’r fenter … (Cofio Boaty McBoatface unrhyw un?).

Ta beth, cafwyd 402 o enwau i fod yr un parhaol ar far maes yr Eisteddfod a rhywrai yn rhywle wedi dewis – pwy a wyr pwy –  a ….pa un sy’n mynd a hi?

Aled Hughes gyhoeddodd ar ei raglen mai ……….ffanfer …. mai Bar Williams Parry fydd yr enw newydd ar y bar.  Grêt ynde, pun bach ar un o feirdd mawr yr ugeinfed ganrif.

Siriysli?!

Enw dyn o’r ganrif ddiwetha?!

Enw bardd?!

Rwy’n gwerthfawrogi “digwydd, darfu, megis seren wib” gystal â neb, ac mae’r englyn i Neuadd Mynytho yn anfarwol ond… ond… ond, rwy’n siomedig iawn gan bod yr enw Bar Williams Parry yn adleisio yr Eisteddfod a fu yn hytrach na’r ŵyl sy’n dathlu Cymru a Chymry y ganrif hon.

Wrth gwrs dyw e ddim o bwys mawr a bydd rhelyw darllenwyr y geiriau hyn yn dweud wrtha’i am beidio â bod mor ddi-hiwmor ac i jyst derbyn yr enw fel “pun” bach digon clyfar. Ond mae iddo bwys neu fyddai’r Eisteddfod ddim wedi gofyn i’r cyhoedd feddwl am enw newydd.

Mae enwau yn bwysig gan eu bod yn cyfleu rhywbeth am natur y lle a mi ddylsen nhw fod yn syml ac yn hunan esboniadwy.  I fi, mae hwn yn enw sy’n grêt i’r rheiny sydd wedi astudio a darllen gwaith R Williams Parry ond ddim i’r miloedd o Gymry sydd yn gwybod dim am feirdd yr ugeinfed ganrif (na beirdd yr unfed ganrif ar hugain o bosib).  A’r bobol rheiny yw’r bobol sydd angen eu denu i’r Eisteddfod.

A hefyd, dychmygwch trio trefnu cwrdd â rhywun sydd yn anghyfarwydd â’r holl fyd Eisteddfodol  – dros y ffôn ar signal sigledig y maes gyda digon o sŵn o’ch cwmpas, – trio gweiddi lawr y ffôn “wnai gwrdd â ti yn Bar Williams Parry”, “pwy?” “be?” “ble?” … Beth fydd yr enw yma yn ei olygu i’r llu anghyfarwydd? Dim! (A mae’n mynd i fod yn boen i’w decstio hefyd er dwi’n gweld BaRWP yn dod yn boblogaidd!)

Yn fwy sylfaenol, rwy’n siomedig hefyd mai enw dyn yw e. Dyn gwyn heterorywiol.  Pa mor hen ffasiwn yw hynny? Colli cyfle i symud ymlaen o’n obsesiwn o edrych yn ôl a chlodfori y dynion a fu.

Mae’r Eisteddfod wedi dod yn wythnos o ddathlu ein celfyddydau i gyd a symud ychydig o’r pwyslais ar y cystadlu a mae’r trefnwyr i’w canmol am hynny. Fydd yr enw yma ddim yn cefnogi hynny.

Cyd-ddyheu a’i cododd hi.