Cafodd enillwyr gwobrau Taro’r Nodyn a Barn y Bobl Menter Môn eu cyhoeddi’n ddiweddar.

Dros y deg wythnos diwethaf, mae Llwyddo’n Lleol 2050, un o gynlluniau Menter Môn, wedi bod yn cefnogi pum entrepreneur lleol i ddatblygu eu syniadau busnes eu hunain.

Fel rhan o’r cynllun, cawson nhw hyfforddiant wythnosol gan arbenigwyr busnes, mentoriaeth gan yr Hwb Menter, yn ogystal â £1000 i helpu i ddatblygu eu syniad.

Bu’r pump yn dogfennu eu teithiau busnes drwy heriau cyfryngau cymdeithasol wythnosol, gan rannu eu profiadau a’u meddyliau ar ddechrau busnes yng Ngogledd Cymru.

Ar gyfer eu hwythnos olaf, roedd disgwyl i’r cyfranogwyr gyflwyno eu syniadau busnes fel rhan o ddigwyddiad Taro’r Nodyn Menter Môn.

Roedd gan bob un dair munud i gyflwyno eu syniadau busnes i banel o feirniaid yn y gobaith o dderbyn gwobr o £1000.

Yr enillwyr

Grace Oni o Gracion Deluxe gafodd y wobr, ac mae hi’n bwriadu lansio Bwtîc Affricanaidd wedi’i leoli ar stryd fawr Bangor.

Bydd ei busnes yn cynnig dillad Affricanaidd, gemwaith yn ogystal â hyfforddiant ar wnio a thrwsio dillad.

Cafodd gwobr bellach o £1000 ei dyfarnu i Ceurwyn Humphreys (Coffi Dre) fel rhan o bleidlais Barn y Bobl Llwyddo’n Lleol.

Wedi cwblhau’r cynllun, mae’r pum entrepreneur yn awyddus i barhau i ddatblygu eu syniadau i greu cyfleoedd a gwella eu cymunedau lleol.

I gefnogi eu gwaith, gallwch ddilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

  • Ceurwyn Humphreys – Coffi Dre https://www.instagram.com/coffidre/
  • Ffion Pritchard – Gwyl y Ferch https://www.instagram.com/gwylyferch_festival/
  • Eleri Foxhall – Iogis Bach https://www.instagram.com/iogisbach/
  • Grace Oni – Gracion Deluxe https://www.facebook.com/Gracion-Deluxe-114216704511439
  • Luke Huntly – Ffotograffydd Luke Huntly https://www.instagram.com/lukejoehuntly_photographer/

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn cymorth busnes tebyg, cysylltwch â jade@mentermon.com a dilynwch Llwyddo’n Lleol 2050 ar Facebook, Twitter ac Instagram.