Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Heléna Herklots CBE yn aros yn ei rôl fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ddwy flynedd arall.

Cafodd ei phenodi yn 2018, gan weithio i hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl hŷn yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ymestyn swydd Heléna Herklots fel Comisiynydd Pobl Hŷn am ddwy flynedd arall o Awst 20, 2022.

“Braint”

“Mae’n fraint bod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac rwy’n falch o gael y cyfle i wasanaethu am ddwy flynedd arall,” meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl hŷn fel eu heiriolwr annibynnol, ac adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd, yn ogystal ag ymdrin â’r heriau newydd y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r perthnasoedd gwaith adeiladol sydd gennyf gyda sefydliadau a chyrff cyhoeddus ar draws Cymru, aelodau’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd rhaid inni ymdrechu i wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”

“Creu Cymru sydd o blaid pobl hŷn”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rwy’n falch iawn y bydd Heléna Herklots yn parhau fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

“Mae pobl hŷn yn cyfrannu cymaint at ein cymunedau ac mae’n bwysig bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Mae Heléna wedi gweithio’n galed i eirioli ar gyfer pobl hŷn yn ystod ei chyfnod yn y swydd ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Heléna dros y ddwy flynedd nesaf wrth inni gydweithio i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.”