Mae nifer yr achosion Covid ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr, er nad yw’r darlun yn glir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Amcangyfrifir bod tua 4.9 miliwn o bobol gwledydd Prydain wedi bod gyda’r feirws yn yr wythnos yn gorffen ar 26 Mawrth.
Mae’r ffigwr hwnnw i fyny o 4.3 miliwn yn yr wythnos gyfatebol flaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yng Nghymru, mae’r nifer gyda Covid wedi codi o 192,900 o bobol, sef un o bob 16, i 212,000, sef un o bob 14.
Mae cynnydd yn Lloegr dros yr un cyfnod o 3.5 miliwn o bobol i 4.1 miliwn.
Dyma’r lefelau uchaf erioed o achosion Covid i’w cofnodi yng Nghymru a Lloegr.