Mae Toda Ogunbanwo – sy’n perfformio dan yr enw Sage Todz – wedi rhyddhau’r gân drill ddwyieithog aeth yn feiral a denu sylw ledled y byd.

Ym mis Mawrth, aeth clip fideo byr ohono yn perfformio ‘Rownd a Rownd (Round & Round)’ yn feiral, gan ddenu sylw miloedd ar filoedd ar draws y byd.

Ers hynny, mae’r rapiwr 22 oed o Benygroes yng Ngwynedd wedi bod yn recordio fersiwn lawn o’r gân drill a chydweithio gyda rhaglen Lŵp S4C i greu fideo a gafodd ei ffilmio yng ngogledd Cymru.

 

 

“Does yna’m rili caneuon drill yn y Gymraeg,” meddai Toda.

“Fyswn i yn dweud bod urban music a miwsig rap yn under-represented yn y sîn Gymraeg,” meddai.

Dywedodd ei fod wedi cymysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn y gân er mwyn trio rhywbeth “gwahanol” a “modern”.

S4C wrth eu boddau

“Roedden ni wrth ein boddau cael cydweithio efo Sage Todz er mwyn creu fideo i’r trac,” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C.

“Mae ‘na gymaint o dalent yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd a ‘da ni mor falch bod sianel Lŵp S4C yn gallu chwarae rhan mewn rhoi llwyfan iddyn nhw,” meddai.