Bydd gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn rhan arwyddocaol o strategaeth newydd S4C, yn ôl Siân Doyle, prif weithredwr newydd y sianel.

Maen nhw wedi cyhoeddi eu hawydd i weithio gyda phartneriaid byd-eang yng ngŵyl deledu MIPTV yn Cannes yr wythnos hon.

Nod S4C yw darparu cynnwys o’r safon uchaf yn y Gymraeg sy’n cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib ar draws ystod o lwyfannau cyfoes, meddai.

Yn ystod yr ŵyl yn Cannes, bydd tîm S4C yn hyrwyddo Cymru fel cartref cynnwys gwreiddiol creadigol o safon fyd-eang drwy gynnal derbyniad ar draeth Annex yn y dref.

Bydd cyfres ddrama newydd Y Golau yn dechrau’n fuan, ac mae’r gyfres wedi cael ei chyd-gynhyrchu gan Duchess Street Productions a Triongl, a’i dosbarthu gan APC Studios yn Paris.

Mae’r gyfres yn cael ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac wedi’i hysgrifennu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a’i chyfarwydo gan Andy Newbery (Un Bore Mercher) a Chris Forster (Craith).

Bydd y ffilm arswyd Gwledd, a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau South by Southwest yn Texas ac sy’n cynnwys actorion fel Annes Elwy a Julian Lewis Jones, yn cael ei dangos ar S4C yn fuan hefyd.

‘Cynlluniau cydweithredol, rhyngwladol’

Dywed Siân Doyle eu bod nhw’n “hynod falch o weithio gyda chynhyrchwyr annibynnol creadigol, a dod o hyd i ffyrdd arloesol o ariannu, cynhyrchu a dosbarthu cynnwys o safon fyd-eang”.

“Gyda’n setliad ariannol hirdymor yn ei le rydym yn chwilio am bartneriaid newydd cyffrous,” meddai.

“Bydd ein strategaeth newydd yn rhoi llwyfan gwych i ni lansio cam nesaf cynlluniau cydweithredol, rhyngwladol sy’n addo dod â’r byd i Gymru a Chymru i’r byd.”

Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni, mae’r sianel yn creu argraff gyda fformatau rhyngwladol fel Am Dro a chydgynhyrchiad Tŷ am Ddim hefyd, meddai.

Mae’r sianel wedi ailstrwythuro eu tîm rheoli yn ddiweddar, ac mae Llinos Griffin-Williams wedi ymuno’r wythnos hon fel Prif Swyddog Cynnwys, a Geraint Evans yn camu i rôl newydd, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.

Penodi dau brofiadol i ehangu darpariaeth ddigidol S4C

Y cyn-newyddiadurwr Geraint Evans a’r cynhyrchydd teledu Llinos Griffin-Williams wedi’u penodi i’r swyddi “allweddol”