Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd i Ynys y Barri ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid.

Fis Mai, bydd MR, Huw Chiswell, Bwncath, Morgan Elwy, Lily Beau, Papur Wal, Hana Lili, Tacsidermi a Dagrau Tân yn perfformio yno.

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Iaith Bro Morgannwg, yn cynnwys dau lwyfan, sef y Prif Lwyfan a Glanfa Gwynfor, sef llwyfan i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae hi’n “hanfodol” fod pobol ym mhob man, gan gynnwys mewn ardaloedd llai traddodiadol Gymraeg eu hiaith, yn cael y cyfle i glywed cerddoriaeth fyw Gymraeg, meddai Alun Williams, un o aelodau Bwncath, wrth edrych ymlaen at yr ŵyl.

“Mae hi’n hollbwysig cael canu’n Gymraeg o flaen cymaint o bobol newydd â phosib,” meddai chwaraewr gitâr fas y band wrth golwg360.

“Mae yna Gymry Cymraeg ym mhob man, ac mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael y cyfle i wrando ar gerddoriaeth fyw Gymraeg ar eu stepan drws.

“Mae hi’n bleser gennym ni fod yn rhan o’r cyfle hwnnw.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn ofnadwy.

“Mae hi’n braf cael mynd i ardaloedd nad ydan ni’n mynd yno’n aml, a chael cynulleidfa wahanol i’r arfer.”

‘Hoff iawn o’n gwyliau’

Nid dyma fydd y tro cyntaf i Bwncath chwarae yng Ngŵyl Fach y Fro, ac er ei bod hi wedi bwrw’n ystod eu perfformiad nhw yn 2019, maen nhw’n edrych ymlaen at ddychwelyd, yn ôl Alun Williams.

“Mi oedd yna awyrgylch braf a hafaidd yno, oedd yn neis i gael dechrau’r haf yn iawn. Er fe wnaeth hi fwrw pan oedden ni’n chwarae!” meddai.

“Mi wnaethon ni fwynhau er y glaw!”

Mae hi’n “fendigedig” cael y cyfle i edrych ymlaen at gymaint o wyliau dros yr haf hwn, ar ôl dwy flynedd dawel heb gigs, hefyd, meddai.

“Mae hi wedi bod yn amser hir do, ac mi yda ni fel cenedl yn hoff iawn o’n gwyliau.

Lily Beau
Lily Beau

“Rydyn ni’n cael perfformio mewn dipyn haf yma hefyd, fydd yn braf: Gŵyl Fel ’na Mai yng Nghrymych, Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Fach y Fro wrth gwrs, Gŵyl Triban, Gŵyl Maldwyn, a’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy.”

Dywedodd Lily Beau ei bod hi “methu aros” i gymryd rhan yn yr ŵyl chwaith.

“Mae e wedi bod yn gyfnod mor hir o fethu perfformio o flaen cynulleidfa,” meddai.

“Dw i jyst methu aros i fod mewn ystafell neu mewn gŵyl o flaen pobol a gallu rhannu cerddoriaeth unwaith eto.”

‘Rhan bwysig o galendr digwyddiadau Cymraeg’

Dywedodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg, eu bod nhw’n “hynod o gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl unwaith eto eleni ger lan y môr yn y Barri”.

“Edrychwn ymlaen i groesawu rhai o fandiau gorau Cymru,” meddai.

“Mae Gŵyl Fach y Fro yn rhan bwysig iawn o galendr digwyddiadau Cymraeg Bro Morgannwg ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.”

Bydd yr ŵyl yn cynnwys gweithgareddau a gweithdai i blant, stondinau crefft, a bwyd a diod, ac eleni mae’r ŵyl wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu prosiect celfyddydol newydd.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dair elfen, sef dawns, celf a cherddoriaeth ac yn golygu cydweithio rhwn artistiaid llawrydd ac ysgolion lleol i greu darnau o waith i’w perfformio a’u harddangos yn yr ŵyl.

Bydd y cerddor Mei Gwynedd yn gweithio gyda grŵp o bobol ifanc o Ysgol Bro Morgannwg er mwyn creu band, mae’r artist Rhys Padarn am weithio ag ysgolion cynradd y Fro i greu murlun, ac mae’r cwmni dawns DanceFit Wales am weithio â rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Morgannwg ar berfformiad dawns.

  • Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Mai 21.