Cyn i ni ryddhau The Welshman i sinemâu, fe wnes i a’r cyfarwyddwr Enlli Fychan dreulio nifer o oriau’n marchnata’r ffilm ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe gymerodd 48 awr solet o drydar a rhannu ar-lein. Deffron ni’r bore wedyn ac roedd y trêl bron â mynd yn feiral, gan ddenu dros 24,000 o wylwyr mewn dim ond 24 awr! Ac roedden ni mewn lle gwych i gael y ffilm go iawn allan i’r byd…

Penderfynon ni drio rhyddhau’r ffilm mewn sinema a’i amseru fo y llynedd efo ailagor sinemâu ledled Cymru. Roedden ni’n meddwl y bysa fo’n berffaith i sinemâu annibynnol yn benodol i gael denu torfeydd yn ystod adeg anodd i’r sinema. Roedd cyfyngiadau’n dal yn eu lle efo dim ond 20% o gapasiti, ond aeth pobol go iawn i weld The Welshman!

Roedd gwybod fod pobol yn gorffen gwaith ac yn paratoi, mynd allan am swper efallai neu drefnu noson o amgylch gwylio’r The Welshman yn deimlad arbennig iawn, nid yn unig i’r sinema ond i bobol gael rhywfaint o normalrwydd eto ar ôl 12 mis o Covid.

Cawson ni nifer o geisiadau i roi’r ffilm ar-lein, ond fy mhrif nod oedd ei chadw hi i’w rhyddhau yn y sinema cyhyd â phosib. Mae sinema annibynnol yn bwysig iawn i mi ac roedd o’n teimlo’n angenrheidiol hefyd i adael i’r economi yng Nghymru gael hwb eto. Llwyddon ni i ddosbarthu’r ffilm i fwy na deg o sinemâu a chanolfannau’r celfyddydau yng Nghymru.

Ar y pryd, roedd gwaith ar y gweill yn sinema Pwllheli, ond mi gadwon ni gysylltiad am 12 mis, gan gynllunio o’r dechrau mai honno fyddai noson ola’r daith sinemâu. Roedd Neuadd Dwyfor hefyd yn awyddus iawn i’w chael hi fel y ffilm fyddai’n ailagor y sinema, oedd yn wych!

Roedd cael dod â hi i dref enedigol Owain lle mae gynno fo gymaint o hanes, lle mae cynifer o bobol yn ei nabod o ac yn ei weld o’n ddyddiol, yn deimlad ffantastig! Dyma oedd sinema ei blentyndod hefyd, ac roedd y noson i gyd yn teimlo fel y ffordd berffaith o gwblhau blwyddyn wych i The Welshman a’r sinema yng Nghymru.