Portread o Siôn Alun Davies

Gyda’r ffilmio ar gyfer trydedd gyfres Craith bellach wedi dod i ben, mae’r actor Siôn Alun Davies yn dweud mai dyna un o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yn hyn.

Yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y Ditectif Owen Vaughan yn y gyfres, mae’r actor o Gaerdydd wedi ymddangos mewn ffilmiau ac ar lwyfan theatrau hefyd.