Mae wyth dyn fu’n pysgota’n anghyfreithlon yn afon Teifi dros gyfnod o ugain mlynedd wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau yn Llys Ynadon Hwlffordd.

Aethon nhw gerbron y llys ddoe (dydd Llun, Ebrill 4) i wynebu’r cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Fe ddigwyddodd trosedd ddifrifol honedig ym mis Mai 2020, gan arwain at yr ymchwiliad, ac fe ddaeth hwnnw o hyd i droseddau ehangach dros gyfnod o ddau ddegawd.

Yn ôl swyddogion fu’n gofalu am yr afon dros nos yn ardal Cenarth, cafodd rhwydi eu gosod yn yr afon yn anghyfreithlon.

Cafodd Emlyn Rees ei weld am 5 o’r gloch un bore yn tynnu’r rhwyd o’r afon, ac fe gafodd ei adnabod gan swyddogion oedd ar batrol gan fod llys wedi ei gael e’n euog dair gwaith o’r blaen o bysgota’n anghyfreithlon.

Er iddo fe ffoi o’r ardal ar y pryd, cafodd ei arestio gan yr heddlu’n ddiweddarach, ac fe wnaethon nhw gynnal cyrch ar ei gartref, gan ddod o hyd i ragor o droseddau gan bobol eraill hefyd.

Troseddwyr a’u cosbau

Yr wyth sydd wedi pledio’n euog i bysgota’n anghyfreithlon yw Emlyn Rees o Genarth; Colin Gentle o Nantperchellan, Penbryn; Matthew Phillips o Adpar; Carl Rago o Gilgerran, Dafydd Rees o Aberteifi; Ashley Davies o Aberteifi; Nathan Pearson o Kelbrook, Swydd Gaerhirfryn; ac Andrew Lewer o Aberteifi.

Bu’n rhaid i Gentle, Phillips, Rago a Dafydd Rees dalu dirwy, costau dioddefwr a chostau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gyfanswm o £20,610 rhyngddyn nhw.

Cafodd Davies, Pearson a Lewer rybudd am droseddau llai difrifol.

Mae achos Emlyn Rees, fu’n arwain y pysgota anghyfreithlon, wedi cael ei drosglwyddo i Lys y Goron, ac mae disgwyl i’r awdurdodau geisio ad-daliad am elw a wnaed o ganlyniad i droseddau, a bydd y gwrandawiad hwnnw’n cael ei gynnal ar Ebrill 19.

Dim modd “tanbrisio” effaith pysgota anghyfreithlon

“Does dim modd tanbrisio effaith y gweithred bysgota anghyfreithlon hon ar y Teifi, dyfroedd eraill a dyfroedd arfordirol,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’r diffynyddion hyn wedi achosi difrod ofnadwy i’r stoc eog a brithyll môr ac maen nhw wedi niweidio’n ddifrifol obeithion stoc y dyfodol o’r rhywogaethau eiconig hyn.

“Mae eu gweithredoedd yn gweithio’n groes i ganlyniadau a manteision a fyddai fel arall yn codi o fuddsoddiad gan ddefnyddwyr afonydd cyfrifol a chronfeydd cyhoeddus.

“Hoffwn ddiolch i’n tîm ymroddedig o Swyddogion Gorfodaeth, y gwnaeth eu hymchwiliad manwl a diwyd ddatgelu graddfa syfrdanol o droseddu.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’n tîm cyfreithiol am ddod â’r bobol hyn o flaen eu gwell.

“Mae’r canlyniad yn y Llys Ynadon o ganlyniad i bron i ddwy flynedd o waith caled.

“Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd i’n cydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys am eu cefnogaeth ac i aelodau cymdeithasau pysgota lleol a ddarparodd ddatganiadau o effaith ar ddioddefwyr oedd wedi helpu ein hachos ni’n fawr.”