Mae fferyllydd sy’n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi bod ym Malawi i sefydlu arfer da ac i weld sut mae’r byd meddygol yn gweithredu yn y wlad honno.

Treuliodd Charlotte Richards, sy’n fferyllydd gwrthfeicrobaidd, ddeng niwrnod yn y wlad yn ymweld â dau ysbyty i weld sut maen nhw’n gweithredu.

Wrth ei gwaith bob dydd, mae hi’n hybu’r defnydd o wrthfeicrobau megis gwrthfiotegau i wella canlyniadau i gleifion ac i leihau sgil-effeithiau megis salwch sy’n gallu arafu ymateb y corff i wrthfeicrobau ac, yn yr achosion gwaethaf, yn gallu arwain at farwolaeth.

“Mae haint yn dod yn wydn i wrthfioteg, sydd ddim yn beth da,” meddai.

“Mewn rhai achosion, dydy gwrthfiotegau y bydden ni fel arfer yn eu defnyddio i drin haint arferol ddim bellach yn gweithio wrth i’r bacteria ddod yn wydn.

“Fe fu cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o wydnwch gwrthfeicrobaidd a bod angen i ni ddefnyddio gwrthfiotegau’n gywir.

“Er enghraifft, peidio cymryd gwrthfioteg ar gyfer feirws oherwydd dydyn nhw ddim yn gweithio, a dim ond cymryd gwrthfiotegau pan fo’n gwbl angenrheidiol.”

‘Problem fyd-eang’

Mae gwydnwch gwrthfeicrobaidd yn broblem fyd-eang sydd yn gofyn am ymateb cydweithredol ar draws y byd.

Yn ôl Charlotte Richards, does gan wydnwch gwrthfeicrobaidd “ddim ffiniau”.

“Mae angen i ni weithio ar draws y byd i leihau baich gwydnwch gwrthfeicrobaidd a chefnogi datblygiad rhaglenni llywio gwrthfeicrobaidd mewn gwledydd incwm isel a chanolig os ydyn ni am gael effaith,” meddai.

“Mae’r bartneriaeth hon ym Malawi yn rhan bwysig o hynny.”

Cafodd Grŵp Fferyllwyr Gwrthfeicrobaidd Cymru grant arbennig drwy bartneriaeth yn y Gymanwlad ar gyfer y daith.

Arweiniodd hynny at bartneriaeth gyda Chymdeithas Fferyllol Malawi, gan agor y drws i daith i dde-ddwyrain Affrica.

Aeth Charlotte Richards i’r brifddinas Lilongwe gyda Charlotte Makanga a Ceri Phillips i ymweld ag ysbytai canolog Kamuzu a Mzuzu.

Treulion nhw amser yn astudio gweithdrefnau’r ysbytai a’u gwaith ym maes llywio gwrthfeicrobaidd, gan gynnwys casglu data ynghylch rhoi presgripsiwn, cyfarfodydd â phwyllgorau i ddatblygu dangosyddion perfformiad, a chreu deunyddiau ymarferol ar gyfer hyfforddiant a fydd yn cael ei arwain gan fferyllwyr ym Malawi i hybu arferion da yn eu meysydd.

Fe wnaethon nhw hefyd astudio canlyniadau arolwg a gafodd ei gwblhau gan y tîm ym Malawi dros gyfnod o bythefnos, a ddatgelodd y gwrthfeicrobau a heintiau mwyaf cyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw, ac a gafodd meddyginiaethau eu rhoi drwy’r geg neu yn syth i’r gwaed.

Herio arferion amhriodol

Dyma’r tro cyntaf i’r arolwg gael ei gynnal mewn ysbyty ym Malawi.

“Dechreuon ni gasglu data treuliant gan ddefnyddio’r systemau cyflenwi sydd eisoes yn eu lle, ac mae’n rywbeth dw i’n gobeithio ei ddatblygu’n fwrdd rheoli y gall ysbytai ei ddefnyddio i gadw cofnod o’u defnydd o wrthfiotegau,” meddai Charlotte Richards.

“Bydd hyn yn eu galluogi nhw i wirio newidiadau a monitro ymyrraeth sydd wedi cael ei rhoi yn ei lle gan y pwyllgorau AMS.

“Aethon ni i’r wardiau meddygol hefyd gyda’r meddygon, y nyrsys a’r fferyllydd i weld eu dulliau ac i gefnogi’r fferyllydd wrth gyfrannu at y tîm amlddisgyblaethol.

“Gobeithio y bydd y prosiect yn helpu i hybu fferyllwyr o fewn y tîm amlddisgyblaethol ac yn cefnogi datblgyiad y gwasanaeth fferylliaeth glinigol, sydd yn ei ddyddiau cynnar iawn ym Malawi.

“O fewn yr ysbyty, mae fferylliaeth yn ymwneud â dosbarthu yn bennaf ac yn seiliedig ar gyflenwadau gyda rolau arbenigol cyfyng iawn.

“Mae gan y fferyllwyr wybodaeth arbenigol wych ac maen nhw’n uchelgeisiol ac ysbrydoledig iawn wrth fod eisiau gwthio’u proffesiwn yn ei flaen.

“Rydyn ni wrthi’n cwblhau’r cit cyfarpar ymarferol ac mae’r tîm ym Malawi yn dechrau’r sesiynau addysg ym mis Ebrill.

“Rydyn ni’n gobeithio hyfforddi 120 o bobol ar draws y ddau safle.

“Er ei fod yn grant llywio gwrthfiotegau, rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth yn grymuso fferyllwyr ym Malawi i gymryd rhan yn fwy wrth herio prosesau amhriodol o roi presgripsiwn ac addysgu’r rhai sy’n rhoi presgripsiwn yn yr holl feysydd clinigol.”

Manteision i fferyllwyr Malawi

Yn ôl Hanna Kumwenda, fferyllydd yn Ysbyty Canolog Kamuzu, mae’r ymweliad wedi cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru a Malawi drwy adeiladu perthnasau gyda rheolwyr, pwyllgorau ac adrannau fferyllol yr ysbytai.

Mae hi’n credu bod yr ymweliad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y prosiect yn y dyfodol.

“Mae cael darlun sylfaenol o strwythur a systemau’r ysbyty, a phrofiad a chyfathrebu wyneb yn wyneb gan y ddau bartner, wedi galluogi’r wybodaeth sylfaenol gywir i gael ei chasglu ac i’r camau cywir gael eu rhoi ar waith,” meddai.

“Fe wnaeth y daith hefyd hwyluso rhwydweithio a chydweithio gyda phrosiectau a phwyllgorau eraill am AMS sydd wedi cael eu sefydlu.

“Mae AMR yn her fyd-eang newydd sy’n gofyn am ddulliau cydweithredol i’w rheoli, a dyna pam fod angen cynnwys prosiectau a rhanddeiliaid eraill sydd eisoes yn eu lle.

“Mae ymweliad y partneriaid â Malawi hefyd wedi galluogi’r ddau dîm i archwilio a datblygu’r adnoddau angenrheidiol sydd wedi’u teilwra i’r ganolfan leol.

“Roedd gan brif fferyllwyr y prosiect yr adnoddau i gwblhau’r camau a’r hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

“Mae trafodaethau ynghylch y ffordd ymlaen a chynnydd y prosiect yn sicr yn fwy cynhyrchiol gan eu bod nhw’n deillio o wybodaeth ar y ddwy ochr.”

Manteision i’r byd meddygol yng Nghymru

Roedd yr ymweliad o fudd i’r byd meddygol yng Nghymru hefyd, meddai Charlotte Richards, a hithau wedi dysgu tipyn hefyd, ac mae’n gobeithio y bydd modd iddi roi’r hyn a ddysgodd ar waith wrth ddychwelyd i Abertawe.

“Roedd y daith yn fanteisiol i’n gilydd yn nhermau dysgu,” meddai.

“Mae’r ffordd mae’r adran fferyllol yn rhoi cyflenwadau rhai o’u gwrthfiotegau risg uchel fel meropenem yn cael ei rheoli’n fwy tynn o lawer nag yn fan hyn.

“Gallwn ni gymryd arweiniad ganddyn nhw yn hynny o beth, yn sicr.

“Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ddyfeisgar iawn ac mae’n rhaid iddyn nhw ymdrin â materion nad oes angen i ni feddwl amdanyn nhw byth yng Nghymru.

“Maen nhw’n addasu’n gyflym iawn oherwydd hyn, ac rwy’n gobeithio y bydda i’n dysgu o hynny drwy’r bartneriaeth.

“Roedd cynifer o emosiynau gwahanol o’m taith i wlad Malawi.

“Mae wedi cynyddu fy ngwerthfawrogiad o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r hyn sydd gennym ni yma, ond roedd yn llawn ysbrydoliaeth hefyd.

“Rydyn ni eisiau gwneud cais am ragor o grantiau i ymestyn y bartneriaeth, gyda’r nod o ddod â rhai o fferyllwyr Malawi i Gymru.

“Gobeithio y gall Cymru barhau i gefnogi’r datblygiadau rydyn ni wedi’u gwneud ym Malawi.”