Mae angen i wleidyddion “ddeffro” a sylwi ar ddifrifoldeb y bygythiadau i ddiogelwch bwyd, meddai ffermwr a gŵr busnes o Sir Benfro.
Yn ôl Mansel Raymond, sy’n gyn-lywydd Copa Cogeca, grŵp sy’n cynrychioli ffermwyr yr Undeb Ewropeaidd, ac yn gyn-gadeirydd European Milk, dydy gwleidyddion ddim yn deall yr angen i wledydd fod mor hunangynhaliol â phosibl.
Mae newid hinsawdd, yn ogystal â’r rhyfel yn Wcráin, wedi gwneud y mater yn un pwysicach nag erioed, meddai wrth golwg360.
Daw ei sylwadau wedi i Undeb Amaethwyr Cymru ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am yr eildro yn eu hannog nhw i fynd i’r afael â’r pwysau mae’r rhyfel yn Wcráin yn ei roi ar ffermwyr a chwsmeriaid yng Nghymru.
“Dw i’n teimlo’n gryf dros hyn, o ran be sy’n digwydd ar hyn o bryd, mae diogelwch bwyd yn bwysicach nag erioed,” meddai Mansel Raymond, fu’n gadeirydd Bwrdd Llefrith NFU a chadeirydd sirol NFU Cymru ar gyfer Sir Benfro.
“Dw i ddim yn meddwl bod gwleidyddion wedi deall rheidrwydd inni gynhyrchu bwyd ac inni fod mor hunangynhaliol â phosib yn y Deyrnas Unedig, yng Nghymru, ac yn Sir Benfro.
“Mae gennym ni broblemau hinsawdd dros y byd, a pwy fyddai wedi disgwyl y byddai’r erchyllterau, y trafferthion yn Wcráin, a oedd yn genedl oedd yn cynhyrchu llawer iawn o fwyd, yn achosi goblygiadau dros y byd i gyd ar y funud.
“Lle mae hynny’n stopio?
“Dyw e ddim yn ymwneud yn unig â beth rydych chi’n gallu ei gynhyrchu.
“Yr effaith knock-on mawr yw’r [effaith] ar yr hyn sydd ei angen i gynhyrchu bwyd… mae prisiau gwrtaith wedi mynd trwy’r to, prisiau tanwydd, prisiau nwy, peiriannau, darnau ar gyfer peirannau, argaeledd peiriannau, cael peiriannau newydd… mae e i gyd yn cael effaith niweidiol ar y gadwyn gyflenwi wrth gynhyrchu bwyd.
“Dw i’n meddwl y gallwn ni ddioddef yn sgil hyn am amser eithaf hir.
“A dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn deffro ac yn sylwi pa mor ddifrifol all hyn fod.”
‘Ofnadwy o bryderus’
Roedd Undeb Amaethwyr Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal cyfarfod gyda’r undeb a rhanddeiliaid eraill er mwyn trafod diogelwch bwyd fis diwethaf, ond dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw’n credu bod y fath gyfarfod yn addas.
Wrth ymateb, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, eu bod nhw’n “ofnadwy o bryderus gyda methiant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgysylltu gyda’r gadwyn gyflenwi yn gynnar er mwyn ystyried camau posib i leihau’r problemau”.
“Mae’r fath effeithiau yn effeithio, a byddan nhw’n parhau i effeithio, ar gwsmeriaid, yn ogystal â ffermwyr, ac felly mae’r mater hwn yn ymwneud â holl boblogaeth Cymru a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â’r diwydiant bwyd ac amaeth,” meddai Glyn Roberts wrth ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru.
“Dw i’n gwybod y byddwch chi’n ymwybodol o’r effeithiau sy’n cael eu hadrodd am y gadwyn gyflenwi, boed o ran olew coginio, tanwydd, bwyd anifeiliaid neu wrtaith, neu’r prinderau sy’n cael eu rhagweld, wyau er enghraifft, ac rydyn ni’n llawn werthfawrogi nad oes yna lawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am sawl un o’r materion hynny.
“Fodd bynnag, mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i godi’r pwysau ar ffermwyr Cymru, a fydd o fudd i gwsmeriaid dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, ac er bod rhain yn gyfyngedig, rydyn ni’n credu ei bod hi’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr er mwyn gwneud yr hyn fedra nhw i gynorthwyo ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, a chwsmeriaid.”
‘Cyflenwad i siopau’n gweithredu’n normal’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cyflenwad bwyd Cymru wedi’i integreiddio’n gyfan gwbl yn system fwyd y Deyrnas Unedig, “sy’n cynnwys cynhyrchiant domestig helaeth a ffynonellau mewnforio amrywiol”.
Mae’n bwysig nodi bod cyflenwadau i siopau’n gweithredu’n normal hefyd, meddai.
“Er mai ychydig o fewnforion amaeth-bwyd sydd gan y Deyrnas Unedig o Wcráin, a chynhyrchion blodyn yr haul yw’r prif un, bydd colli cynnyrch y wlad o farchnadoedd rhyngwladol yn cynyddu prisiau oherwydd newidiadau mewn cyflenwad a galw,” meddai Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn trafod yn rheolaidd gyda sefydliadau ac unigolion sy’n cynrychioli’r gadwyn gyflenwi amaeth-bwyd. Mae hyn yn cynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr.
“Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn y cyfarfodydd hyn yn cael ei hadolygu’n gyson, ac mae’n cael ei defnyddio i ddarparu asesiad cyfredol o faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, ar unwaith ac yn y tymor hir, ac i nodi mesurau lliniaru posibl.
“Dylid cydnabod mai’r bygythiad mwyaf arwyddocaol i ddiogelwch bwyd i bobol Cymru yw effaith yr argyfwng costau byw a achosir gan bolisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”