Bydd cwrs ar-lein newydd yn cael ei lansio heddiw ar Ddiwrnod Treftadaeth y Byd (Ebrill 18) er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dysgu am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes Gwynedd.

Nod cynllun Llysgennad Gwynedd yw rhoi cyfle i bobol sy’n byw, gweithio, astudio, neu sydd â diddordeb yng Ngwynedd i ddysgu a gwella eu gwybodaeth am rinweddau’r sir.

Bydd y cwrs, a fydd ar gael i unrhyw un ei ddilyn yn eu hamser eu hunain ac yn rhad ac am ddim, yn cynnwys naw modiwl fydd yn tywys y dysgwr i ddysgu am themâu megis iaith, diwylliant, cymunedau, tirwedd, hanes, chwedlau, a threftadaeth.

Mae’r cwrs wedi cael ei ddatblygu gan Wasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau Cyngor Gwynedd, ac mae’n adeiladu ar waith y Cyngor i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO i ardaloedd chwarelyddol y gogledd orllewin.

Yn ôl Elin Evans, Swyddog Prosiect Llechi Cymru, Cyngor Gwynedd, y pwrpas oedd “creu cwrs ar-lein er mwyn cyflwyno treftadaeth, hunaniaeth a hanes Gwynedd mewn ffordd syml a chyfoes, fyddai’n addas ac o fudd i bawb; busnesau, plant, pobol ifanc, gweithwyr cyhoeddus, a’r cyhoedd yn gyffredinol”.

‘Bob dim i bawb’

Mae’r awdur a’r cyflwynydd o Ben Llŷn, Aled Hughes, yn cefnogi’r cynllun ac yn frwd dros rannu stori’r sir.

“Ydi hi’n bosib cael y rhan fwyaf o bob dim mewn un sir? Ydi. Dyna ydi Gwynedd,” meddai Aled Hughes.

“O’i thraethau di-ri i’w chopaon uchaf, o’i phentrefi i’w ffermydd – i’w chestyll – mae yna bob dim i bawb.

“Fel un gafodd ei eni, ei fagu a’i addysgu hyd nes iddo raddio yma – mae’n hawdd cymryd y lle’n ganiataol.

“Crud yr iaith. Cartref i chwedlau – o gewri i frenin a chlustiau ceffyl. Ond yr elfen bwysicaf? Ei phobol, pobol sy’n falch iawn o’u hiaith a’u Cymreictod.

“A dyna, i mi, ydi cadernid Gwynedd – a dw i’n falch bod yr adnodd sobor o bwysig yma ar gael i ddweud ein stori ni.”

‘Hyrwyddo, gwarchod, a datblygu’

Dywedodd Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, bod hyrwyddo, gwarchod a datblygu treftadaeth y sir yn flaenoriaeth i’r cyngor.

“Bydd y cwrs Llysgennad newydd yn fodd i bobol Gwynedd a thu hwnt ddysgu a lledaenu’r neges o pha mor unigryw a phwysig ydi ein hardal,” meddai.

Mae pedwar modiwl wedi cael eu lansio heddiw, a bydd y pump arall ar gael yn yr wythnosau nesaf, a bydd modd i bobol sy’n cwblhau’r gwaith ennill tystysgrif efydd, arian neu aur.