Mae’r Blaid Werdd a Phlaid Cymru wedi lansio eu Maniffesto y Bobl, wrth i’r Gynghrair Tir Cyffredin addo’r newid sydd ei angen ar Gaerdydd.
Mae’r ddwy blaid wedi dod ynghyd ac wedi ymuno ag ymgyrchwyr cymunedol i ffurfio’r Gynghrair ar gyfer yr etholiadau lleol fis nesaf, ac mae eu maniffesto’n cael ei lansio ar ôl cael ei greu ar y cyd gan y grŵp gyda mewnbwn gan weithredwyr ac arbenigwyr o bob rhan o’r brifddinas.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “cynrychioli math o wleidyddiaeth aeddfed y mae dirfawr ei angen i wrthwynebu polisïau dinistriol Llafur Caerdydd” yn ystod y degawd diwethaf, a bod eu “gwerthoedd allweddol yn canolbwyntio ar gydraddoldeb, yr amgylchedd a democrateiddio llywodraeth leol”.
Maen nhw eisiau “dinas ar gyfer cymunedau, dinas ar gyfer diwylliant, dinas sy’n gofalu, gan ddweud bod Llafur Caerdydd “wedi llywyddu dros anghydraddoldebau enfawr yn y ddinas, datblygiadau dadleuol a niweidiol di-ri”, a bod “trigolion yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu”.
‘Prosiect hir, ond hynod werth chweil’
“Mae wedi bod yn brosiect hir, ond hynod werth chweil yn y pen draw, i greu maniffesto sy’n crynhoi hanfod y Gynghrair Tir Cyffredin,” meddai Tessa Marshall, ymgyrchydd gyda Save the Northern Meadows a fydd yn sefyll yn yr Eglwys Newydd.
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni, rhai ohonynt yn fanwl iawn, er mwyn creu dogfen sy’n cynrychioli’r newid sydd ei angen ar Gaerdydd yn wirioneddol.
“Mae’n ddogfen sy’n adlewyrchu safbwynt y rhai sydd wedi brwydro yn erbyn diffyg gweithredu’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf ar gymaint o faterion, a datblygiadau sydd wedi bod yn hynod niweidiol i gymunedau a’r amgylchedd.
“Mae yna lawer iawn o ddicter a rhwystredigaeth yn y ddinas ac mae mor wych gallu troi rhywfaint o’r egni hwnnw yn rhywbeth cadarnhaol.
“Gobeithiwn y bydd y weledigaeth y mae’n ei chynrychioli o ddinas ddemocrataidd – dinas ar gyfer cymunedau, dinas ddiwylliant, dinas sy’n gofalu – yn un a fydd yn ysbrydoli y tu hwnt i’r etholiad ei hun ac yn gosod y safon ar gyfer sut y caiff ein dinas wych ei llywodraethu i’r dyfodol.”
‘Awydd gwirioneddol i weld newid’
Mae Mike Deem, a fydd yn sefyll yn Radur ac sy’n un o’r rhai sy’n arwain y trefnu fel aelod o Blaid Cymru, yr un mor gyffrous gan y maniffesto a phopeth y mae’n ei gynrychioli.
“Mae wedi bod yn brofiad hynod gyffrous a chadarnhaol gweithio gyda’r Blaid Werdd ac actifyddion cymunedol i ddod â’r ymgyrch hon ynghyd, ac ar garreg y drws rydym nawr yn gweld ein bod yn manteisio ar awydd gwirioneddol ar ran trigolion Caerdydd i weld newid,” meddai.
“Dydw i erioed wedi profi ymateb mor gadarnhaol ac mae’n wych nawr lansio’r maniffesto a rhannu gyda’r bobl y weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer y ddinas.
“Fel gyda’n holl waith, mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd go iawn, yn gwrando ar syniadau a gobeithion ymgyrchwyr profiadol sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau.
“Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud mai Maniffesto’r Bobl ydyw mewn gwirionedd.”
‘Ffynhonnell gobaith a phositifrwydd’
Penderfynodd Radha Nair-Roberts, ei gyd-ymgeisydd yn Radur, sefyll oherwydd canlyniadau erchyll datblygiadau yng ngorllewin y ddinas i’w chymuned leol.
Mae’r Gynghrair Tir Cyffredin wedi bod yn ffynhonnell gobaith a phositifrwydd iddi yn wyneb yr hyn sydd weithiau wedi teimlo fel sefyllfa anobeithiol, wedi’i symboleiddio gan barc plant yn ei chymuned sydd wedi bod dan glo am y pum mlynedd diwethaf, fel y mae datblygiad Plasdŵr wedi cymryd blaenoriaeth dros anghenion trigolion.
“Mae’r hyn sydd wedi digwydd i’n cymuned yn arwyddluniol o’r ffordd y mae Llafur Caerdydd wedi rhedeg y ddinas er budd datblygwyr a’u helw, nid y bobol,” meddai.
“Rydw i wrth fy modd i weld y maniffesto yn darparu ymateb manwl a chynhwysfawr iawn i faterion y ddinas hon, gan ddangos sut y gallwn ailwampio’r broses gynllunio fel bod anghenion trigolion yn ganolog iddo.
“Mae hefyd yn nodi sut y gellir diwygio’r Cynllun Datblygu Lleol, sy’n sylfaenol i’r ffordd y mae Caerdydd yn esblygu dros y blynyddoedd i ddod, mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion y bobol, ac sydd ag egwyddorion cydraddoldeb a chynaliadwyedd yn ganolog iddynt.”
Y ddogfen
Mae is-bennawd y Maniffesto yn cynrychioli’r gwerthoedd sy’n ysbrydoli’r amrywiaeth o ymgeiswyr sydd wedi dod ynghyd y tu ôl i’r Gynghrair Tir Cyffredin.
Mae’r ddogfen yn anelu at amlinellu Dinas ar gyfer Cymunedau, Dinas ar gyfer Diwylliant, a Dinas Sy’n Gofalu.
Mae ymdeimlad cyffredinol ymhlith y gynghrair bod gwasanaethau a mannau gwyrdd wedi dod yn ail i anghenion busnesau mawr, bod treftadaeth y ddinas a masnachwyr annibynnol wedi’u haberthu ar yr allor elw, a bod y Cyngor Llafur wedi dangos diffyg parch a diffyg diddordeb ym mhobol y ddinas.
“Rwy’n caru Caerdydd, ac mae’n torri fy nghalon i weld dinistrio mannau gwyrdd, lleoliadau diwylliannol a chymunedol yn cau a diffyg buddsoddiad mewn tai gwirioneddol fforddiadwy sy’n digwydd o dan Lafur lleol,” meddai Frankie-Rose Taylor o’r Blaid Werdd, sy’n un o’r rhai sy’n anelu at ddisodli Llafur yn Grangetown.
“Rwy’n sefyll oherwydd fy mod eisiau bod yn llais yn siarad ar ran pobol leol i wrthwynebu’r penderfyniadau hyn ac oherwydd fy mod yn credu bod angen mwy o fenywod ifanc, dosbarth gweithiol mewn gwleidyddiaeth.”
Ieuenctid a phrofiad
Bydd hi’n sefyll gyda Sarah King, Luke Nicholas a Tariq Awan, ysgrifennydd Mosg lleol, ac un sydd wedi bod yn gynghorydd Plaid yn y ward o’r blaen.
Mae’r cymysgedd hwn o ieuenctid a phrofiad yn y ward yn un sy’n cael ei adlewyrchu ar draws y ddinas, a fwy byth yn Nhreganna y mae’r Gynghrair – a gynrychiolir ar ffurf Eleri Lewis, John ap Steffan a Matthew Hawkins – wedi’i hoelio’n gadarn arno.
Rhywun sydd wedi bod yn ymuno â nhw yn gyson ar drywydd yr ymgyrch yw Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.
“Rydw wedi fy ngwefreiddio gan yr ymateb a gafodd ein hymgeiswyr ar garreg y drws,” meddai.
“Dydw i erioed wedi gwybod dim byd tebyg ac mae gweld yr ymateb a’r ymdeimlad o bosibilrwydd eisoes wedi cyfiawnhau’r gwaith caled, waeth beth fo’r canlyniad.
“Ac mae wedi bod yn wych gallu curo drysau gan wybod bod gennym ni weledigaeth wirioneddol sylweddol ar gyfer Caerdydd y tu ôl i hynny sydd wedi dod o lawr gwlad.”
Yn yr un modd, mae Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, wedi bod yn rhan o’r trefnu ac ymgyrchu, ac wedi croesawu’r cyfle i weithio gyda Phlaid Cymru.
“Mae cymaint o dir cyffredin rhwng y ddwy blaid o ran ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau, ei bod yn gwneud synnwyr llwyr i ddod at ein gilydd yn y cyd-destun hwn i hyrwyddo ymgyrch yn erbyn cyngor Plaid Lafur sydd angen ei herio’n ddirfawr,” meddai.
“Ar sail yr ymgyrch hyd yma byddwn yn gobeithio y gallai hyn fod yn sylfaen ar gyfer cydweithredu parhaus yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill.”
‘Ffordd newydd o wneud pethau’
Mae Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru, Helen Westhead – sy’n sefyll yn Nhre-biwt – yn adleisio geiriau’r ddau.
“Rydym yn wynebu heriau enfawr ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang ac mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i greu ffordd newydd o wneud pethau sy’n rhoi cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol wrth galon ein gwleidyddiaeth,” meddai.
“Gyda’r glymblaid hon o rymoedd ym mhrifddinas Cymru, rydym wedi llunio maniffesto a chreu ffurf newydd ar wleidyddiaeth sy’n rhoi’r gobaith i ni y gallwn greu byd gwell i’n plant, ein teuluoedd a’n cymunedau.
“Mae’n rhaid i ni ddechrau yn rhywle, ac nid oes lle gwell na’n stepen drws ein hunain; rydym yn argyhoeddedig y gallai Caerdydd, gyda’r gwerthoedd a’r delfrydau hyn, fod yn arweinydd byd mewn gwir ystyr.”