Mae’r ymgyrch dros ddatganoli darlledu “gam yn nes” wedi i Lywodraeth Cymru ddewis panel arbenigol i edrych ar bwerau cyfathrebu a darlledu Cymru, meddai Plaid Cymru.

Bydd y panel, a fydd yn cael ei gyd-gadeirio gan y darlledwr Mel Doel a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yn darparu argymhellion ac opsiynau er mwyn cryfhau’r cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r panel yn cael ei sefydlu fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a byddan nhw’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith reoleiddio effeithiol ac addas i’r diben i Gymru.

Fe fydd y panel yn cynghori ac yn darparu argymhellion ac opsiynau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru hefyd.

Nod yr Awdurdod hwnnw fyddai ceisio cryfhau democratiaeth Cymru a chau’r bwlch gwybodaeth, cydgysylltu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau’r cyfryngau yn y wlad, a chefnogi datblygiadau arloesol i hyrwyddo’r Gymraeg yn y byd digidol, megis drwy blatfform amam.cymru.

Byddai gwaith yr Awdurdod hefyd yn cynnwys creu mwy o gyfryngau yng Nghymru, a defnyddio’r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau. Nhw hefyd fyddai’n gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi’r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:

  • Nia Ceidiog
  • Dr Llion Iwan
  • Arwel Ellis Owen
  • Ceri Jackson
  • Clare Hudson
  • Dr Ed Gareth Poole
  • Richard Martin
  • Geoff Williams
  • Shirish Kulkarni
  • Carwyn Donovan

‘Carreg filltir’

Meddai Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Celfyddydau a Diwylliant: “Yn yr un ffordd ag y dylai penderfyniadau ynghylch Cymru gael eu gwneud yng Nghymru, dylai’r penderfyniadau ynghylch materion cyfathrebu a darlledu gael eu gwneud yma hefyd.

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser hir am ddatganoli darlledu i Gymru, ac mae ein hymgyrchu diflino wedi bod yn allweddol wrth gyrraedd y garreg filltir hon heddiw.

“Mae cael Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu ein hunain mor bwysig er mwyn gallu creu cynnwys sy’n berthnasol i ni, ac mae’r panel arbenigol hwn yn gam pwysig oddi wrth ganoli popeth yn Llundain.

“Mae gennym ni ein timau chwaraeon ein hunain, ein senedd ein hunain, ein hiaith ein hunain – mae hi’n gwneud synnwyr bod gennym ni blatfform ein hunain ar gyfer hyn.

“Ni ddylem ni orfod cwffio am ofod darlledu ar blatfformau dros y Deyrnas Unedig pan mai’r ateb datganoli darlledu. Dw i wrth fy modd bod Llafur wedi cytuno i gefnogi ein galwadau o’r diwedd, a chyflwyno’r camau pwysig hyn.”

‘Hwb go iawn i’n democratiaeth’

Ychwanegodd Aelod Dynodedig y Cytundeb Cydweithio dros Blaid Cymru, Cefin Campbell, bod gan hyn y potensial i fod yn “ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn i’n democratiaeth”.

“Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth,” meddai Cefin Campbell.

“Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu yn ein gwlad sy’n gallu gwarchod, arallgyfeirio a gwella ein platfformau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen.

“Mae cyfryngau lleol a chenedlaethol bywiog yn hanfodol i adlewyrchu tapestri bywyd ledled y wlad – trafod, rhoi gwybodaeth a dathlu ein holl ddiwylliannau a’n cymunedau.

“Mae ein ffordd o weithio er budd y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl groes i ffordd o weithio Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar Lundain ac ar wneud elw ar draul pawb a phopeth. Rydym yn credu mewn dyfodol lle ceir cyfryngau lluosog, democrataidd, wedi’u gwreiddio’n lleol sy’n gwella bywyd cenedlaethol Cymru.”

‘Ymosodiadau ar ddarlledu’

Wrth gyhoeddi’r panel, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, bod consensws nad yw’r fframwaith ddarlledu bresennol yn diwallu anghenion Cymru a bod angen cymryd camau i ddatblygu fframwaith sy’n fwy addas i’r diben.

“Mae bygythiadau parhaus ac ymosodiadau ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a chyhoeddiadau diweddar gan Weinidogion y Deyrnas Unedig am ddyfodol ffi drwydded y BBC a phreifateiddio Channel 4, yn cryfhau’r achos bod y system bresennol yn ddiffygiol,” meddai Dawn Bowden.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael argymhellion y Panel Arbenigol fel y gallwn greu fframwaith cyfathrebu a darlledu sy’n gweithio i Gymru.”