Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley wedi dweud bod yn rhaid i Dy’r Arglwyddi fod “ar sail etholedig os am gael hygrededd fel siambr.”

Daeth sylwadau’r Arglwydd Dafydd Wigley wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol o Dy’r Arglwyddi ar ôl hanner canrif ym myd gwleidyddiaeth.

Bu Dafydd Wigley yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 1981 a 1984 ac eto rhwng 1991 a 2000. Fe fydd yn troi’n 80 oed y flwyddyn nesaf a dywedodd ei fod yn bryd rhoi “terfyn ar bethau.”

Wrth siarad gyda BBC Radio Cymru fore ddoe (dydd Sul, 12 Mehefin) dywedodd Dafydd Wigley: “Pan es i Dy’r Arglwyddi 10 mlynedd yn ôl doedd aelodau ddim yn cael ymddeol, oedden nhw’n mynd allan pan oedden nhw’n marw. Ond, wrth gwrs, mae yna hawl i ymddeol wedi dod i mewn a phan ddois i mewn wnes i feddwl os dw i’n cael cyfrannu am ddegawd efallai bod hynny’n ddigon. A rŵan mae’r degawd wedi dod i ben ac erbyn hyn fydda’i yn 80 yn ystod y flwyddyn seneddol yma ac efallai bod yr amser wedi dod i gael terfyn ar bethau.”

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n gweld eisiau Tŷ’r Arglwyddi fe atebodd: “Dim colled ar ôl y lle ond colled am y cyfle i fod yn cyfrannu i’r dadleuon sy’n bwysig i Gymru, colled am rai cyfeillion, cyfeillion yn Nhŷ’r Cyffredin ac ambell un yn Nhŷ’r Arglwyddi hefyd.”

“Hygrededd”

Dafydd Wigley yw unig aelod Plaid Cymru i eistedd yn Nhy’r Arglwyddi ac mae’n awyddus i’r blaid a Chymru benderfynu ynglŷn ag anfon aelodau eraill i’r ail siambr, gan ychwanegu bod cwestiwn yn codi “am ddyfodol y lle yma.”

“Os ydan ni am gael hygrededd fel siambr mae’n rhaid i’r siambr fod ar sail etholedig a dydy hynny ddim gynnon ni ar hyn o bryd. Felly pan fuon ni’n curo’r Llywodraeth dro ar ôl tro ar faterion yn codi o Brexit er enghraifft roedd yn rhaid i ni ildio i farn Tŷ’r Cyffredin fel y siambr etholedig ac mae hynny’n tanseilio ein gwaith ni o wybod, ar ddiwedd y dydd faint bynnag mor ddilys ydy’r pwyntiau sy’n cael eu gwneud yma, faint bynnag mor ysgubol ydy’r mwyafrif dros benderfyniadau yma, mae’n rhaid i ni ildio ar ddiwedd y dydd i’r mwyaf sydd gan Boris Johnson yn y lle arall.”

Mae Dafydd Wigley wedi dweud bod gwaith i’w wneud o hyd yn Nhy’r Arglwyddi ond bod hynny “bron yn amhosib” gydag un person mewn siambr o 700 o aelodau.

Cafodd Plaid Cymru addewid o dair sedd gan lywodraeth Lafur y cyfnod, a dewiswyd yr Arglwydd Wigley, Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies yn dilyn pleidlais yn y cyngor cenedlaethol ym mis Ionawr 2008.

Digwyddodd trafodaethau cychwynnol tra roedd Tony Blair yn brif weinidog, ond erbyn 2008 Gordon Brown oedd yn Rhif 10 ac mae’n debyg ei fod e wedi gwrthod.

Daeth Dafydd Wigley yn arglwydd yn 2010 pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog ond roedd wedi cael ar ddeall y byddai aelodau eraill yn ei ddilyn.

“Fe gawson ni ein bradychu eto, y tro yma gan y Torïaid,” meddai.

Er ei fod yn gadael y byd gwleidyddol mae Dafydd Wigley wedi dweud ei fod yn gobeithio parhau i gyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru am beth amser eto.