Mae’r Urdd wedi amddiffyn y penderfyniad i gael presenoldeb yr heddlu ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych eleni.

Adroddodd golwg360 yr wythnos diwethaf am y gân – neu rap – brotest yr oedd y gantores neo-soul Izzy Rabey wedi ei sgrifennu, ar ôl cael ei chynddeiriogi o weld lluniau plant ar y maes yn cydio yn nharianau terfysg yr heddlu.

Fe’i perfformiodd yn fyw ar lwyfan yr Arddorfa yn rhan o’i set gyda’r gantores Eadyth yn ystod Gŵyl Triban nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod.

Yn ei rap, a oedd hefyd yn beirniadu penderfyniad y bardd Eurig Salisbury i ganu cerdd mawl i’r heddlu yn rhinwedd ei swydd fel bardd preswyl Heddlu Dyfed Powys, mae hi’n dweud: “I dderbyn comisiwn llawn clod is an absolute madness. Plant bach yn mwytho riot shields fel anifeiliaid anwes. Yn Eisteddfod yr Urdd. Fascism forms in jovial apathy mewn sawl ffyrdd.”

Ymateb

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn falch iawn o’r berthynas rhwng y Mudiad a’r gwahanol Heddluoedd yn yr ardaloedd hynny lle y cynhelir yr Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau wrth golwg360.

“Mae o’n gyfle gwych i blant a phobl ifanc gael cyfarfod a siarad gyda swyddogion yr Heddlu ac yn gyfle i’r swyddogion ymwneud ac ymgysylltu â’r gymuned drwy gyfrwng yr Eisteddfod.

“Yn ychwanegol at hynny, mae gan yr Heddlu rôl allweddol hefyd o ran diogelwch y cyhoedd, atal troseddu a rheoli traffig yn y gwahanol leoliadau. Mae’r Urdd yn gwerthfawrogi’r cyfraniad hynny yn fawr.”