Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod cap ar y gyfradd log sy’n cael ei chodi ar fenthyciadau myfyrwyr Cymru o fis Medi 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles.
Fe fydd y cap yn para am gyfnod o 12 mis, ac yn amodol ar reoliadau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd.
Mae’r cap hefyd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer myfyrwyr Lloegr. Dywedodd Jeremy Miles y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu myfyrwyr rhag cyfraddau llog uchel ar eu benthyciadau, cyfraddau sy’n deillio o lefelau chwyddiant uchel.
Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022, roedd y gyfradd chwyddiant sy’n pennu’r llog sy’n cael ei godi ar rai o fenthyciadau myfyrwyr wedi cyrraedd 9%. O fis Medi 2022, byddai’r cyfraddau llog yn codi i 12% am gyfnod cyn iddyn nhw gael eu capio.
Cap ar gyfradd benthyciadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau deirgwaith dros y 10 mis diwethaf i osod cap ar gyfradd benthyciadau a diogelu myfyrwyr. Er mwyn sicrhau nad yw cyfraddau yn cyrraedd 12%, bydd cap yn cael ei osod ar y gyfradd log o fis Medi 2022. Bydd y cap ar y gyfradd log sy’n cael ei ragweld ar gyfer y farchnad ym mlwyddyn academaidd 2022/23, yn cael ei bennu ar 7.3%.
Rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, gosodir cap o 7.3% ar gyfradd y benthyciadau a drefnwyd gan israddedigion ers 2012, a chan fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n bosibl y bydd capiau pellach yn cael eu gosod ar gyfraddau os bydd cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn is na chyfraddau llog benthyciadau myfyrwyr.
“Hael”
Nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn newid ad-daliadau misol benthyciadau myfyrwyr, gan mai cyfran sefydlog o incwm y myfyriwr yw’r swm sy’n cael ei dalu. Mae ad-daliadau benthyciadau yn ddibynnol ar lefel yr incwm. Dim ond os yw myfyrwyr yn ennill dros drothwy arbennig y maen nhw’n gorfod ad-dalu eu benthyciad, a chaiff unrhyw ddyled sy’n dal heb ei thalu ar ôl tri deg mlynedd ei chlirio.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn darparu’r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU. Ar gyfartaledd, mae llai gan fyfyrwyr Cymru i’w ad-dalu na’u cyfoedion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn talu hyd at £1,500 o ddyled pob unigolyn sy’n mynd ati i ddechrau ei had-dalu, cynllun sy’n unigryw o fewn y DU.