Mae dyn wedi marw ar ôl bod yn mynydda yn Eryri dros y penwythnos.

Cafodd timau achub mynydd a hofrennydd gwylwyr y glannau eu galw ar ôl i ddau ddringwr weld y dyn wrth ymyl Cneifion Arete yng Nghwm Cneifion ger Llanberis tua 11.30 fore Sadwrn (11 Mehefin).

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen roedd y dyn wedi cael anafiadau difrifol ar ôl syrthio cryn bellter.

Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond bu farw’n ddiweddarach.

Nid yw’r dyn wedi cael ei enwi’n ffurfiol ond credir ei fod yn lleol ac yn ddringwr profiadol.