Mae Keir Starmer yn wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau San Steffan yn dilyn honiadau ei fod wedi torri’r rheolau’n ymwneud a datgan buddiannau ariannol.

Fe agorodd yr ymchwiliad yn erbyn yr arweinydd Llafur wythnos ddiwethaf ac mae’n ymwneud ag enillion ac anrhegion, a buddiannau o ffynonellau yn y Deyrnas Unedig.

Mae Keir Starmer wedi mynnu ei fod yn hyderus nad yw wedi torri cod ymddygiad Aelodau Seneddol gan ddweud nad “oes problem fan hyn”.

Ychwanegodd nad oedd yr honiadau yn syndod gan ddweud: “Mae fy swyddfa yn delio gyda hyn ac fe fydd yn ymateb cyn bo hir.”