Mae dyn wedi cyfaddef lladd merch 18 oed yn Sir Benfro cyn y Nadolig y llynedd.
Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan ym Mhenfro yn oriau man Rhagfyr 17.
Roedd disgwyl i Lewis Haines, 31, o Sir Benfro sefyll ei brawf ar gyhuddiad o’i llofruddio ar Fehefin 20.
Roedd e eisoes wedi pledio’n euog i’ gyhuddiad o ddynladdiad.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Llun, 13 Mehefin) roedd Haines wedi newid ei ble a phledio’n euog o lofruddiaeth.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf.