Fe gafodd Amgueddfa Lechi Cymru ei hagor ym mhentref Llanberis ger Chwarel Dinorwig yn 1972…
Gweledigaeth un dyn hanner can mlynedd yn ôl sy’n gyfrifol am fodolaeth Amgueddfa Lechi Cymru, safle lle mae modd gweld chwarelwr yn naddu’r llechen hyd heddiw, er bod y chwarel ei hun wedi hen gau.
Hugh Richard Jones oedd prif beiriannydd Chwarel Dinorwig yn Llanberis pan gaeodd hi’n sydyn yn 1969, a hebddo fo mae’n debyg na fyddai’r amgueddfa wedi cael ei sefydlu, heb sôn am ddathlu’r 50 eleni.
Ers i rai o adeiladau diwydiannol y chwarel yn Gilfach Ddu ailagor fel amgueddfa ym mis Mai 1972, mae’r safle wedi
bod yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd i ddysgu am hanes diwydiant llechi’r gogledd bob blwyddyn.
A chadw yn driw at weledigaeth wreiddiol Hugh Richard Jones sy’n gyfrifol am lwyddiant yr amgueddfa ar hyd y
blynyddoedd, meddai Lowri Ifor, Rheolwr Addysg a Dehongli’r Amgueddfa Lechi.
“Roedd o’n un o bump o ddynion oedd wedi cael eu cadw ymlaen yma yn y Gilfach Ddu i oruchwylio’r broses o gau bob dim lawr a gwerthu pob dim,” eglura Lowri.
“Mi ddychrynodd o weld yr olwyn ddŵr yn cael ei mesur ar gyfer sgrap a phenderfynu bod rhaid gwneud rhywbeth.
“Fe wnaeth o weithredu a phenderfynu bod rhaid perswadio’r cyngor lleol ac Amgueddfa Cymru bod yna werth i’r dreftadaeth ddiwydiannol yma, bod yna werth i’r hanes, a bod eisiau gwarchod y lle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
“Beth oedd yn fy nychryn i fwyaf oedd… gweld nhw i fyny ar yr olwyn fawr. Oedden nhw’n mynd i losgi honno, fel scrap. Mi ges i gyfle i stopio nhw neud hynny, a siarad efo’r ocsiwnïar a’r derbynnydd, ac fe wnaethon nhw gau’r cwbl i fyny a gyrru’r vultures o yna i gyd…” – Hugh Richard Jones
Ar ôl cau’r chwarel, bu cyfnod prysur o drafod a llythyru rhwng unigolion brwdfrydig sefydliadau cenedlaethol, y
cyngor sir a’r Swyddfa Gymreig, meddai Cadi Iolen, Curadur yr amgueddfa.
“Penderfynwyd y byddai’r cyngor yn prynu’r adeiladau, yr Adran Amgylchedd yn edrych ar ei ôl a’r Amgueddfa Genedlaethol yn datblygu’r lle fel amgueddfa,” eglura Cadi.
“Roedd gweithred un dyn yn yr achos yma yn dyngedfennol – Hugh Richard Jones yn stopio’r ocsiwn cyn i bopeth gael ei werthu.
“Wrth ei ddatblygu’n amgueddfa, roedd yna awydd i gadw cymeriad a naws yr hen weithdai ac mae hynny’n hollbwysig hyd heddiw.”
“Dydan ni ddim am altro’r lle, na’i beintio fo. Rydan ni’n awyddus iawn i gadw’r lle fel ag yr oedd o…” – Hugh Richard Jones
“Dw i’n meddwl bod yr amgueddfa wedi bod yn llwyddiant dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf,” meddai Lowri, “achos ei fod o wedi cadw’n reit driw at weledigaeth wreiddiol Hugh Richard Jones, sef ein bod ni ddim yn mynd i darfu gormod ar y pethau oedd yma’n barod.
“Mae yna ardaloedd mawr o’r amgueddfa sydd dal i edrych fel oedden nhw ar ddiwedd y 1960au, fel bod y gweithwyr jyst wedi codi a gadael.”
Wil Ffitar yn dod â’r lle’n fyw
Ond pobol sy’n gwneud amgueddfa, “nid jyst gwrthrychau”, meddai Lowri.
“Mae yna lot o bobol wedi bod yn weithgar iawn ac wedi cyfrannu i ddod â’r safle’n fyw dros y blynyddoedd.
“Dw i’n meddwl bod y teithiau rydyn ni wedi’u cael ar y safle, bob math o weithdai creadigol rydyn ni wedi’u cael yma, a’r cymeriadau sydd gennym ni yma – mae pobol yn hoff iawn o’r rheiny – wedi bod yn bwysig.”
Fel rhan o’r dathliadau 50 mlynedd, fuodd yr amgueddfa yn cydweithio gyda disgyblion yr ysgol uwchradd leol – Ysgol Brynrefail yn Llanrug – er mwyn creu cymeriad newydd.
“Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar ran o’r amgueddfa o’r enw’r Gweithdy Peirianneg,” meddai Lowri.
“Mae’n rhan ddiddorol o’r amgueddfa ac mae yna lot o hen beiriannau yno ond ychydig iawn o ddehongli sydd wedi bod yna cyn rŵan. Roedden ni’n teimlo ein bod ni eisiau rhoi rhywbeth arall yna i nodi’r pen-blwydd a dod â’r hanes yn fwy byw.”
Fuodd y disgyblion yn gweithio gyda’r actores a’r awdures Rhian Cadwaladr, sydd wedi bod yn perfformio cymeriadau yn yr amgueddfa ers chwarter canrif, er mwyn ymchwilio a chreu cymeriad i chwarelwr go-iawn.
“Mae Rhian wedi sgriptio cymeriad o’r enw Wil Ffitar, ac roedd Wil Ffitar yn gymeriad fuodd yn gweithio yn y Gilfach Ddu o 1946 tan 1969,” meddai Lowri.
“Rydyn ni fel cynulleidfa yn ei gyfarfod o fel cymeriad y diwrnod cyn iddo fo gychwyn ei swydd newydd yn yr amgueddfa. Fel rhan o’r sgript yna mae gen ti atgofion Wil o weithio yma fel ffitar, mae yna lot o wybodaeth am y
broses brentisiaeth, y berthynas oedd gan y dynion efo’i gilydd, hanes y chwarel, hanes y cau, y stori o achub yr adeilad, a’i droi’n amgueddfa.
“Mae hi wedi bod yn braf ffocysu ar hanes mwy diweddar y safle, a chael cyfraniad gan y disgyblion i’r gwaith.”
Iwan Charles fu’n chwarae rhan y cymeriad dros gyfnod y dathliadau ddiwedd fis Mai, ond bydd Wil Ffitar yn ymuno â chasgliad yr amgueddfa o gymeriadau a fydd yn ymddangos ar wahanol adegau eto yn ystod yr haf.
Olwyn ddŵr fwyaf Prydain
Roedd yr Amgueddfa Lechi yn un o’r amgueddfeydd diwydiannol cyntaf pan sefydlwyd hi yn 1972.
“Roedd o’n rhywbeth eithaf radical ac eithaf newydd – y syniad bod yna werth i amgueddfa ddiwydiannol a hanes gweithwyr, pobol dosbarth gweithiol a’u crefft a’u sgiliau nhw yn hytrach na bod amgueddfa yn bedair wal wen efo lluniau mewn ffrâm,” meddai Lowri.
“Mae amgueddfeydd yn gallu bod yn llefydd byw, ac mae’r syniad mai hanes pobol gyffredin ydy’r amgueddfa yma yn apelio’n fawr at ymwelwyr.”
Dros ugain mlynedd yn ôl cafodd rhes o dai teras, Fron Haul, eu symud fesul carreg o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog a’u hailgodi yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.
Mae’r pedwar tŷ yn darlunio gwahanol gyfnodau yn ystod oes y chwareli llechi mewn gwahanol ardaloedd, a dyna un o’r atyniadau sy’n plesio ymwelwyr yn bennaf, meddai Lowri.
“Mae hwnna’n rhywbeth sy’n apelio at lot o bobol, yn bendant. Rydyn ni’n licio’r cysylltiad dynol yna, mae pobol yn licio gweld sut oedd pobol yn byw,” meddai Lowri.
“Mae’r olwyn ddŵr yn boblogaidd iawn efo ymwelwyr, mae gennym ni olwyn ddŵr fwyaf tir mawr Prydain yma – mae hi’n ddarn anhygoel o beirianwaith, ac mae ei maint hi’n hollol syfrdanol i rywun ei gweld.
“Rhywbeth arall mae rhywun yn mwynhau yma ydy ein crefftwyr ni. Mae gennym ni chwarelwyr yn arddangos y grefft o hollti a naddu yma… a dw i’n meddwl fy mod i’n iawn i ddweud mai hwn ydy’r unig le ym Mhrydain bellach lle’r wyt ti’n gallu gweld arddangosiad o’r grefft yna.
“Mae gennym ni’r gof yma hefyd yn gweithio yn yr efail wreiddiol, ac mae cael gweld rhywun yn dangos y grefft yn yr un ffordd a fyddai wedi digwydd yma am fwy na chanrif pan oedd y Gilfach Ddu yn gweithio, yn rhywbeth sy’n apelio i bobol ac yn dod â’r safle’n fyw eto.”
Y dyfodol
Beth sydd nesaf i’r amgueddfa felly?
“Mae yna obaith datblygu’r amgueddfa yn y blynyddoedd i ddod, mae’r sgyrsiau wedi cychwyn am hynny. Dw i methu dweud dim byd mwy pendant, ond mae o’n obaith denu buddsoddiad a datblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf,” meddai Lowri
“Beth bynnag sydd yn digwydd o ran datblygiad, fyddan ni ddim yn tynnu bob dim sydd yma allan… adeiladu ar hwnna a gweithio o gwmpas be sydd yma fysa unrhyw ddatblygiad.”