Mae annog ei thîm i fentro ac arloesi yn rhan fawr o lwyddiant a thwf yr Urdd, yn ôl pennaeth y mudiad…

Daeth y niferoedd uchaf erioed i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, sef 118,000. Rhyw 90,000 sy’n mynychu fel arfer.

Fe gafodd y mudiad hanner miliwn o bunnau gan Lywodraeth Cymru fel nad oedd yn rhaid talu I fynd ar y Maes yn Ninbych eleni.