Roedd sgrifennu cerddi buddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Urdd eleni yn “brofiad anodd iawn” i Ciarán Eynon.

Roedd doniau’r bardd 22 oed o Landrillo-yn-rhos, Conwy, sydd bellach yn byw yn Llundain, ‘yn dra amlwg o agoriad y gwaith hyd at ei ddiwedd,’ yn ôl y beirniaid Peredur Lynch ac Eurig Salisbury.