Mae gwaith y nofelydd Llwyd Owen yn ddylanwad ar enillydd y Goron yn yr Urdd eleni, â’i stori fuddugol “wahanol iawn, yn llawn hiwmor tywyll… swreal”.

‘Llen’ oedd testun stori fer Twm Ebbsworth, sy’n dod o Lanwnnen yng Ngheredigion. Cafodd ei ddisgrifio gan feirniaid y gystadleuaeth, Sian Northey a Gwenno Mair Davies, fel ‘llenor aeddfed a chrefftus a wnaeth ein tywys ar daith wallgof a gwahanol.’