Mae cwmni Ballet Cymru yn “chwarae o gwmpas” gyda rhywedd a rhywioldeb yn eu sioe newydd sy’n seiliedig ar un o gomedïau Shakespeare…

Nod Ballet Cymru wrth greu cynhyrchiad newydd o un o gomedïau William Shakespeare oedd sicrhau ei bod hi’n berthnasol i’r byd o’u cwmpas.

Mae’r cwmni wedi creu byd o dylwyth teg, cariadon, a hud a lledrith, gan “chwarae o gwmpas” gyda rhywedd a rhywioldeb yn Dream, sef eu fersiwn nhw o A Midsummer Night’s Dream.

Yn ogystal ag adlewyrchu amcan y cwmni i gynrychioli cymdeithas yn ei chyfanrwydd, bydd “perfformiadau hamddenol” o Dream yn cael eu cynnal dros Gymru er mwyn denu cynulleidfaoedd sy’n wynebu rhwystrau wrth ymweld â’r theatr fel arfer.

Mae’r perfformiadau hyn yn fyrrach, yn llai ffurfiol, ac mae gan y gynulleidfa’r hawl i fynd a dod fel maen nhw yn dymuno.

Amy Doughty – Cyfarwyddwr Artistig
Cynorthwyol Ballet Cymru. Lluniau gan Sian Trenberth Photography

Ac ar ôl dwy flynedd o bandemig, roedd cyfarwyddwyr artistig y cwmni, Amy Doughty a Darius James, yn awyddus i greu bale fyddai’n codi calon cynulleidfaoedd.

Mae’r bale wedi’i gosod mewn gŵyl gerddoriaeth yng Nghymru, a bydd hi’n teithio drwy gydol fis Mehefin a dechrau Gorffennaf.

“Mae gennym ni berthynas lesbiaidd yn ein grŵp o gariadon,” meddai Amy Doughty, cyfarwyddwr artistig cynorthwyol Ballet Cymru.

“Mae’r cymeriadau a fyddai’n cael eu hadnabod yn draddodiadol fel Brenin a Brenhines y Tylwyth Teg yn gymeriadau anneuaidd – gall y rhannau hynny gael eu chwarae gan unrhyw aelod yn y cwmni ac roedden ni eisiau iddyn nhw fod yn gyfnewidiadwy. Mae gennym ni dylwyth teg gwrywaidd.

“Rydyn ni wedi trio cyflwyno golwg ffres arni, ac rydyn ni’n meddwl, pe bai Shakespeare yn fyw heddiw, mai dyma sut y byddai’n sgrifennu beth bynnag.

“Roedd yna awydd i wneud rhywbeth hapus, a rhywbeth fedra ni roi bywyd newydd iddo, a dw i’n meddwl bod Shakespeare yn cynnig ei hun yn dda i hynny. Mae hi mor hawdd addasu ei waith i’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, a dw i’n meddwl bod hynny oherwydd ei fod o flaen ei amser.

“Ond roedd e’n sgrifennu straeon ar gyfer y bobol hefyd, roedd e’n sgrifennu am bobol go-iawn ac i ni mae hynny’n bwysig. Mae’n bwysig hefyd ein bod ni’n dewis straeon sy’n apelio at gynulleidfaoedd, ac ein bod ni ddim yn gwneud pethau mor aneglur fel bod pobol heb ddiddordeb dod i’w gweld. Yn aml, mae cynulleidfaoedd yn hoffi rhywbeth sy’n teimlo’n gyfarwydd iddyn nhw hyd yn oed os ydy e’n ddehongliad gwahanol.”

Gwneud pethau’n wahanol

Mae cwmni Ballet Cymru yn awyddus i wneud pethau’n wahanol, nid er mwyn bod yn wahanol, ond er mwyn mynd â bale yn bellach nag y bu.

“I ni, am wn i bod gwahanol yn golygu gwahanol o gymharu â norms bale traddodiadol,” esbonia Amy.

“Trwy’r cwmni rydyn ni’n gweithio ag ystod mor eang o weithwyr llawrydd a staff, ac rydyn ni eisiau i bobol deimlo eu bod nhw’n gallu dod i weld ein sioe a theimlo fel eu bod nhw’n cael eu cynrychioli.

“I ni, y cyrhaeddiad sy’n bwysig, a’r ffaith bod pobol yn gallu gweld eu hunain a’u bod nhw’n teimlo bod croeso iddyn nhw.

“Mae rhai o’r cwmnïau bale mawr traddodiadol – a does gennym ni ddim rhai yng Nghymru mewn gwirionedd – ond mae yna nifer ohonyn nhw yn Lloegr a thramor, mae eu cynulleidfa nhw yn disgwyl iddyn nhw wneud gwaith bale traddodiadol, Swan Lake a Sleeping Beauty ac ati. Dydy’r bobol hynny ddim fel petaen nhw’n meindio os ydyn nhw wedi’i weld pedair gwaith.

“Ond i ni, os ydy’r bobol hyn eisiau mynd i weld y gwaith hyfryd, traddodiadol yna, yna ddylen nhw fynd i weld un o’r cwmnïau mawr hynny sy’n gwneud y gwaith hwnnw. Fel cwmni, dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny.

“I ni, mae hi’n teimlo’n bwysig ein bod ni’n creu cynulleidfa newydd i fale, sydd ddim yn gynulleidfa draddodiadol ond sy’n caru bale ac yn gwybod eu bod nhw’n mynd i fod yn gweld rhywbeth gwahanol.

“Mewn perfformiadau yn y gorffennol rydyn ni wedi cael dawnswyr ar jumpstilts, neu’n swingio o hoop, neu’n clocsio. Rydyn ni’n rhoi cynnig gwahanol er mwyn trio cael gwared ar rwystrau traddodiadol bale.

“Gyda chwmnïau bale mawr, mae angen iddyn nhw fod yn berthnasol i’r clasuron. Ond i ni, dydyn ni erioed wedi gadael i’n hunain fynd yn sownd yn y ffordd honno o weithio. Mae yna gynulleidfa ar gyfer y gweithiau traddodiadol, ond rydyn ni’n tueddu i ddenu math gwahanol o gynulleidfa.

“Yn y cwmnïau bale mawr, efallai y bydd ganddyn nhw ugain o ddawnswyr sy’n uniaethu fel menyw a’u bod nhw i gyd yn edrych yr un fath ac yn dawnsio mewn ffordd debyg, a fyddan nhw’n perfformio’r elyrch neu’n gwneud y golygfeydd grŵp lle maen nhw eisiau i bawb edrych yr un fath. Rydyn ni’n mynd yn erbyn hynny, rydyn ni’n licio cael unigolion yn ein cwmni. Os yw pobol yn dod i’n gweld ni, fe wnawn nhw weld bod gennym ni bob siâp, maint, a lliw yn ein cwmni ac rydyn ni wrth ein boddau efo hynny.”

Comisiwn newydd, offeryn newydd 

Dydy’r sioe Dream ddim yn cadw at sgôr gerddorol Mendelssohn, sydd fel arfer yn cael ei defnyddio ar gyfer dehongliad bale o A Midsummer Night’s Dream.

Yn hytrach, Frank Moon, un o’r prif gyfansoddwyr ar gyfer sioeau dawn yng ngwledydd Prydain, sydd wedi cyfansoddi’r sgôr.

“Mae e’n wych. Mae’n gyfansoddwr sydd wedi cael ei enwebu am sawl gwobr, mae e wedi gweithio efo cwmnïau a chynyrchiadau arbennig,” meddai Amy.

“Gyda phob comisiwn newydd, mae’n dysgu offeryn newydd. Ar gyfer ein cynhyrchiad ni o Dream mae e wedi dysgu ei hun i chwarae’r ney, sy’n ryw fath o ffliwt Arabaidd, ac mae’n gwneud ei offerynnau ei hun.”

Bydd Frank Moon yn perfformio gyda Ballet Cymru yn ystod rhai o’r sioeau, ac roedd y broses gyfansoddi yn hollol wahanol i’r disgwyl, meddai Amy.

“Fel arfer byddai’r

Louise Lloyd – dawnswraig a choreograffydd
gyda Ballet Cymru. uniau gan Sian Trenberth Photography

i gyd yn cael ei chyfansoddi cyn i ni ddechrau yn y stiwdio efo’r dawnswyr. Ond efo Frank, mae hi’n broses hollol wahanol. Mae e wedi bod yn creu’r gerddoriaeth wrth i ni fynd ymlaen.”

Perfformiadau hamddenol

Bydd tri pherfformiad hamddenol (relaxed perfomances) o Dream yn cael eu cynnal yn Pontio ym Mangor, Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, a Theatr Riverfront yng Nghasnewydd.

“Rydyn ni’n cynnal perfformiadau hamddenol i drio deall pam fod pobol yn dod i’r theatr ac yna pam nad ydyn nhw’n dod i’r theatr, a be gallen nhw fod ei angen pan maen nhw’n dod i’r theatr,” eglura Louise Lloyd, Swyddog Mynediad ac Allgymorth y cwmni.

“Mae’r perfformiadau hamddenol yn gobeithio ymgysylltu ag aelodau o’r gynulleidfa fyddai ddim yn teimlo’n gyfforddus neu ddim yn teimlo bod y theatr yn le addas iddyn nhw, neu bobol sydd heb ymgysylltu â bale o’r blaen oherwydd bod ganddyn nhw anghenion ychwanegol neu resymau eraill dros beidio mynd.

“Mae’r theatr yn lle eithaf ffurfiol, yn enwedig efo bale mae’n cael ei ystyried yn eithaf ffurfiol o ran ymddygiad disgwyliedig y gynulleidfa.

“Mae perfformiadau hamddenol yn fwy hygyrch o ran bod pobol yn cael eu hannog i wneud beth bynnag sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn bod yn gyfforddus yno. Mae gan bobol hawl i wneud sŵn, symud o gwmpas, gadael pryd bynnag mae pobol eisiau a dod yn ôl. Gall pobol fwynhau a gwylio’r perfformiad yn eu ffordd eu hunain, a pheidio cael eu cyfyngu.”

Er mwyn sicrhau bod y perfformiadau’n gweithio’n well i’r gynulleidfa y maen nhw’n trio’i denu, mae strwythur y sioe wedi cael ei haddasu hefyd.

“Mae’r perfformiad yn fyrrach, 60 munud i gyd, a does yna ddim egwyl ffurfiol gan ein bod ni’n annog pobol i adael pryd bynnag maen nhw angen,” eglura Louise.

“Rydyn ni’n ychwanegu naratif sy’n llenwi bylchau’r golygfeydd rydyn ni wedi’u tynnu allan, i wneud o’n haws i’w ddilyn ac yn fyrrach. Yn y naratif mae gennym ni Gymraeg a Saesneg. Fydda i’n gwneud y Saesneg a fydda i’n defnyddio Maketon hefyd ar gyfer pobol sy’n ei chael hi’n haws gwrando gydag ychwanegiad gweledol.”

Bydd cyfleoedd i’r gynulleidfa gyffwrdd rhai o wisgoedd a phropiau’r bale hefyd, fel bod ganddyn nhw well dealltwriaeth o’r sioe a’u bod nhw’n gallu eu hadnabod nhw’n ystod y sioe.

“Mae cael y wybodaeth synhwyrol ychwanegol yna, gallu ychwanegu cyffyrddiad neu arogl, yn rhywbeth rydyn ni’n gwybod mae pobol yn hoffi,” meddai Louise. “Mae’n ddefnyddiol i bobol sydd ag amhariad ar eu golwg, ond hefyd fel arf ychwanegol i bobol sy’n gwylio’r sioe.”

Yn ôl Louise, does yna ddim rheswm i berfformiadau beidio bod yn hygyrch erbyn hyn, ac mae Ballet Cymru wrthi yn deall lle mae’r bylchau wedi bod yn y gorffennol.

“Rydyn ni’n trio ein gorau i wneud nhw’n hygyrch a bod pawb yn gallu mwynhau unrhyw berfformiad. Yn enwedig efo bale, mae yna rwystrau wedi bod – dim yn unig o ran hygyrchedd corfforol mewn theatr, ac anghenion llafar neu ieithyddol a sut mae pobol yn cyfathrebu –  ond mae yna rwystr o ran hygyrchedd ariannol, a’r stereoteip a’i fod yn adloniant ar gyfer y dosbarth uwch neu’r dosbarth canol.

“Gyda phopeth rydyn ni’n ei wneud yn Ballet Cymru rydyn ni’n trio cael gwared ar y rhwystrau a’r rhagdybiaeth ynglŷn â bale a phwy y mae ar eu cyfer.”

Roedd y perfformiadau cyntaf o Dream yng nghanolfan Pontio Banor tros y penwythnos, ac mae holl fanylion y daith ar dream.cymru/dreamdates