Gyda haf llawn gigs heb gyfyngiadau Covid ar y gorwel, mae gitarydd y band Gwilym yn edrych ymlaen i weld be fedar o ddal ar ei gamera…

Nid miwsig yw unig gariad gitarydd 22 oed y band Gwilym, Rhys Grail.

Mae wrth ei fodd yn tynnu lluniau a bod yn greadigol gyda chamerâu o bob math.