Unigrwydd y cyfnod clo a sbardunodd ddrama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

‘Un Bach Arall’ oedd ymgais gyntaf Osian Wynn Davies o Lanfairpwllgwyngyll i gyfansoddi sgript ddrama, ond mi oedd yn ‘waith ffres ac egnïol’, yn ôl y beirniaid.