Mae’r llun o’r sgorfwrdd ar y Tanner Bank sy’n dweud ‘Llanelli 9 Seland Newydd 3’, ynghyd â’r llun o Delme Thomas yn cael ei gario oddi ar Barc y Strade wedi’r fuddugoliaeth hanesyddol yn 1972, yn rhan o chwedloniaeth a hanes Clwb Rygbi Llanelli ers hanner can mlynedd bellach.
Ar drothwy’r hanner canmlwyddiant ar 31 Hydref eleni, mae Andrew Richards, mab y ffotograffydd Alan T Richards a dynnodd y lluniau byd-enwog hynny, wrthi’n creu llyfryn arbennig i gofio’r achlysur ac fel teyrnged i’w dad. Bu farw Alan T Richards yn 2010, dair blynedd union ar ôl colli Ray Gravell a 35 mlynedd union wedi’r fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Crysau Duon. Ymhlith y galarwyr yn angladd y ffotograffydd roedd Phil Bennett a Roy Bergiers, dau aelod allweddol o’r tîm drechodd Seland Newydd.
Wedi’i eni yn Heol Sandy, dafliad carreg o Barc y Strade, metelegydd yng ngweithfeydd Trostre oedd Alan T Richards, ond roedd yn ffotograffydd chwaraeon amatur brwd a fyddai’n mynd â’i gamera i Barc y Strade neu i amryw o gaeau rygbi, criced, pêl-droed eraill gorllewin Cymru bob dydd Sadwrn – neu hyd yn oed i ambell lawnt bowls neu neuadd snwcer.
Gyda’i dad yn Gymro Cymraeg o Lanelli a’i fam yn hanu o Drimsaran, roedd y Scarlets yn llifo drwy waed Andrew Richards yn ifanc, er mai yng Ngorseinon tu draw i Bont Llwchwr y cafodd ei eni.
‘9-3 a helynt Chris Ralston’
O’r sgorfwrdd enwog ar y Tanner Bank i’r llun o’r capten Delme Thomas, bydd yr holl luniau enwog o’r diwrnod hwnnw rhwng cloriau cyfrol arbennig Andrew Richards sy’n talu teyrnged i waith ei dad.
“Achos lot o’r lluniau eiconig o’r gêm yna, Dad gymerodd nhw. Mae llun o’r tîm lle’r oedd y bois mas cyn yr All Blacks a gafodd Dad ei wthio i’r ochr. Bryd hynny, roedd bois y cyfryngau lawr o Lundain a gwthion nhw mewn i’r canol. Roedd Ray [Gravell] yn y llun, yn dweud ‘Blae mae Alan? Ble mae Alan?’ Fe welodd e Dad ar ochr y sgrym o ffotograffwyr. Yn y llun eiconig o’r Scarlets, mae’r Scarlets yn disgwyl tamaid bach i’r chwith ac mae Raymond yn disgwyl syth at Dad! Fi’n cofio clywed hyn wrth Ray ei hunan pan o’n i’n ifanc. Roedd e moyn rhoi llun i’r bobol oedd e’n gweld bob wythnos.
“Fi ar ganol gwneud photobook o ryw 40 llun gymerodd e ar y diwrnod, a fi’n bwriadu gwneud dau beth. Fi’n mynd i wneud limited edition o ryw 50 ohonyn nhw, a fi’n bwriadu rhoi un o’r rheiny i bob un o’r chwaraewyr sydd dal ambwyti neu eu teuluoedd nhw, a Carwyn. Mae’n 50 mlynedd eleni. Fi’n mynd i holi am soft cover version a gwerthu nhw, yr All Blacks yn neidio off y bws a dod mewn i’r cae, lluniau o’r bois yn ymarfer cyn y gêm ac yn dod ma’s i weld y cae, lluniau’r tîm a’r gêm ei hun a wedyn y diwedd, a dau lun o Delme yn yr ystafell newid ar ôl y gêm achos bod Dad yn cael mynd mewn ar y diwedd.”
Ymhell cyn dyddiau adroddiadau newyddion ar-lein a ffotograffwyr proffesiynol yn cael eu talu’n hael am eu lluniau, byddai Alan T Richards yn mynd â’i gamera i gemau yn y gobaith y byddai’r lluniau’n cael eu cyhoeddi ar dudalennau chwaraeon y papurau newydd.
Yn ogystal â’i luniau o un o’r diwrnodau mwyaf yn hanes Llanelli a’r byd rygbi yng Nghymru, fe ymddangosodd ei luniau o Chris Ralston, clo Richmond a’r Llewod, yn cael ei gicio a’i sathru gan Lanelli, ar dudalennau chwaraeon y papurau Prydeinig. Dyma rai lluniau yn unig o blith miloedd sydd gan Andrew Richards i bori drwyddyn nhw i’w digideiddio’n barod ar gyfer archif ei dad.
“Mae wedi bod yn broses eitha’ araf, i fod yn onest, a fi wedi bod yn gwneud e’n onest am oddeutu chwe blynedd. Mae miloedd ar filoedd o negatives naill ai 35mm neu rai two and a quarter square, fel maen nhw’n dweud.”
O’r negatifs ar fwrdd y gegin i’r gliniadur
Mae’r broses o greu’r archif ddigidol yn wahanol iawn i’r broses y byddai Alan T. Richards yn ei defnyddio ddegawdau’n ôl, nid mewn ystafell brosesu broffesiynol ond ar fwrdd cegin cartre’r teulu yng Ngorseinon yn Abertawe. Ar yr union fwrdd hwnnw y dechreuodd y broses ddigideiddio i Andrew y mab hefyd.
“Dechreuais i wneud e am damaid bach pan oedd Dad yn fyw,” meddai Andrew Richards, sydd newydd ddychwelyd i Gymru ar ôl byw yn Llundain am 30 mlynedd. “Roedd pobol yn mo’yn access i’r lluniau ac roedd e’n ffordd i wneud hwnna. Wedyn ar ôl i Dad farw, ro’n i’n gwneud tamaid bach ar y tro. Dros y cwpwl o flynydde diwetha’ gyda Covid, ro’n i’n dodi un neu ddau lun ma’s ar Twitter, dim ond rhai o safon ffotograffydd.
“Yn y diwrnodau pan oedd Dad yn cymeryd lluniau, roedd e’n mynd ma’s ac yn cymeryd 24 neu 28 llun mewn gêm, ddim fel heddi gyda’r camerâu digidol pan maen nhw’n mynd ma’s a saethu cannoedd ar gannoedd o luniau a’u hala nhw mewn i’r sportsdesk ac maen nhw’n mynd trwyddyn nhw i gyd yn cael un neu ddau maen nhw’n mo’yn ac yn gwneud y driniaeth ddigidol ar y lluniau. Roedd Dad yn prosesu lluniau nos Sadwrn, yn gwneud y developing yn y gegin a gwneud y printio. Bore dydd Sul, roedd e’n ysgrifennu’r captions ar gyfer pob llun.
“Roedd e’n gwneud y prosesu ar nos Sadwrn pan oedd Match of the Day arno, a wastad yn sgrechen ambwyti unrhyw olau oedd arno achos y dark room oedd y gegin amser hynny! A bore dydd Sul, ro’n i’n mynd yn y car gyda fe am drip i’r gwahanol bapurau newydd lleol.
“Pan o’n i’n ifanc, cyn bo fi yn fy arddegau, ro’n i’n mynd lan gyda Dad bore dydd Sul ar drip mawr i Abertawe i swyddfeydd yr Evening Post ac wedyn i Rydaman i’r Guardian i fynd â lluniau lan i fynna, ac i Lanelli i’r Llanelli News a’r Llanelli Star a weithiau i Gaerfyrddin hefyd i’r Carmarthen Journal. Dyna beth oedd ei broses e.”
Ond gyda’r oes ddigidol yn newid popeth, roedd llai a llai o alw am luniau ei dad ac fe ddaeth ei waith ar y Strade i ben, i bob pwrpas, gyda dyfodiad camerâu digidol wrth i’r papurau newydd ddechrau cyflogi ffotograffwyr proffesiynol. Ond ac yntau’n dal i fod yn ffotograffydd chwaraeon brwd, fe drodd ei sylw at y campau ar lawr gwlad, gan ganolbwyntio ar rygbi yng ngorllewin Cymru tra bod ei fab yn mynd gyda’i dad-cu i Barc y Strade o hyd.
“Pan oedd e dal yn gwneud cwpwl o gemau lawr ar y Strade, pan o’n i yn fy arddegau, roedd e’n mynd â fi lawr gyda’r camera, a dodi fi ar ochr y cae achos roedd tad-cu fi’n stiward y players’ entrance lawr ’na. Un o Bwll oedd e, ac ro’n i’n cael mynd mewn gyda fe ac ro’n i’n mynd ar y cae. Roedd Dad yn mynd bant i’r Tymbl wedyn neu i Lanymddyfri neu lawr i Gasllwchwr neu Benclawdd, cymeryd hanner y gêm a dod nôl i’r Strade, dala’r ugain munud diwetha’, pigo fi lan ac wedyn ro’n ni’n mynd lawr i weld tad-cu ar ôl y gêm.”
Gwaddol y tad yn nwylo’r mab
Yn ystod y cyfnod Covid, gyda mwy a mwy o bobol yn troi at y we i ddiddanu eu hunain ac i gael lles o gyfathrebu â’r byd tu allan yn ystod y cyfnodau clo, fe welodd Andrew Richards bwrpas newydd i luniau ei dad.
“Ar y dechrau, do’n i ddim ond yn dodi ma’s tri neu bedwar llun o bob gêm ar Twitter achos dim ond y tri neu bedwar gorau ro’n i mo’yn tynnu ma’s. Ond fel ro’n i’n dodi mwy a mwy ma’s, ro’n i’n gweld bod e’n cael lot o les. Achos bod pobol yn y tŷ yn ffaelu mynd ma’s, ro’n i’n cael mwy a mwy o bobol yn dilyn y Twitter feed, yn dweud bo nhw’n joio’r lluniau ac edrych ’nôl. Roedd pobol mo’yn siarad am yr hen ddyddiau a phan o’n i’n cael y lluniau ma’s, roedd e’n cael lot o ddiddordeb.
“Wedyn ro’n i’n sylweddoli bod pobol mo’yn gweld lluniau ohonyn nhw eu hunain yn chwarae yn y 1970au, 1980au, 1990au a’r 2000au. Yn y diwedd, beth ddechreuais i wneud, oni bai bod y llun ddim yn dda a ma’s o ffocws, oedd printio nhw i gyd a dodi nhw i gyd ma’s achos ro’n i’n gwybod fod rhywun yn mo’yn gweld y llun, yn mo’yn dangos i’w meibion nhw neu eu hwyrion nhw bo nhw wedi bod yn chwarae rygbi a bod tad-cu yn gallu chwarae rygbi yn 1975…!
“Mwy a mwy, pan ’yf fi’n cael amser, achos bo fi’n gweithio hefyd, fi’n mynd trwy’r broses o ddigideiddio nhw a’u glanhau nhw yn y light room a’u dodi nhw ma’s. Mae lot o bobol yn cysylltu â fi yn mo’yn lluniau.
“Fi’n cofio, ffeindiais i ryw lun o’r 1970au cynnar o dîm pêl-droed lawr yn Llanelli o’r enw Trallwm Rovers. Nagw i’n siwr os ydyn nhw’n dal yn mynd ac yn bodoli nawr. Team photo, negatif sgwâr o 1972 neu 1973 oedd e. Ges i neges gan fenyw yn gofyn os gallai hi gael print ohono fe, achos yn y llun yna mae ei thad hi a buodd e farw ambwyti pythefnos ar ôl i’r llun gael ei gymeryd, mewn damwain car, yn ei 20au cynnar, a doedd dim lot o luniau gyda hi o’i thad. Felly wnes i fe am ddim iddi achos dyna fyddai Dad wedi gwneud os oedd e wedi clywed y stori. Rwy’n cofio Phil [Bennett] yn dweud yn angladd Dad taw beth oedd e’n cofio oedd bod e wastad yn cael lluniau gyda Dad ar ôl gêm, ac mae bocs o luniau Dad gyda fe.”
Llafur cariad
“Labour of love” yw’r gwaith digideiddio, yn ôl Andrew Richards.
“Achos mae’n talu teyrnged i Dad, sy’n anffodus ddim gyda ni ragor, ond mae e’n rhoi lot o hapusrwydd i bobol ar y we. Mae rhai pêl-droed, rygbi, bowls, criced, un neu ddwy gamp od wedyn fel pŵl a snwcer a paffio… Mae cwpwl o luniau o Colin Jones pan oedd e’n ifanc ffeindiais i. Mae rhai o’r lluniau’n cael eu iwsio mewn llyfrau. Mae’r BBC wedi cael lluniau o’r blaen mewn rhaglenni, gwahanol lyfrau Gwasg Gomer ac yn y blaen.”
P’un, felly, yw hoff lun Andrew Richards o eiddo’i dad?
“Mae’n anodd dweud hoff lun neu luniau achos mae miloedd ar filoedd! Y peth yw, fi dal yn darganfod nhw felly bydden i’n dweud bod fy hoff lun eto i gael ei weld. Mae Mam yn byw yng Ngorseinon ac mae bocs o negatifs eto i gael eu darganfod. Mae twll yn yr archif rhwng 1973-74 a 1977-78. Roedd e yn y gêm yn erbyn Awstralia yn 1975, nagw i wedi ffeindio’r lluniau hynny. Roedd e yn y gêm yn erbyn Awstralia yn 1982, fi ddim wedi ffeindio rheiny eto.
“Mae rhagor o chwilio gyda fi i wneud a fi’n gobeithio bo nhw ddim wedi cael eu towlu ma’s gan Dad flynydde yn ôl pan oedd e’n meddwl ar y pryd bod dim gwerth o gwbl i’r lluniau hyn. Fydde fe ddim yn meddwl yn y 1970au bod pobol mo’yn dishgwl nôl mewn 30 neu 40 mlynedd.”