Roedd 1977 yn flwyddyn fawr i fi. Fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Marw yr olaf o fy mam-gus a thad-cus.

A jiwbilî arian y frenhines.

Dydw i ddim yn siŵr pa un o’r rhain gafodd y dylanwad hirdymor mwyaf arnaf i, ond dw i’n gwybod mai dim ond un ohonyn nhw oedd yn ddigon tyngedfennol i’r crwt 11 oed yr oeddwn i ar y pryd benderfynu ei fod yn haeddu llyfr lloffion cyfan iddo’i hun.

A jiwbilî’r frenhines oedd hwnnw.