Dyma golofn Dylan Iorwerth yr wythnos yma i gylchgrawn Golwg, ac rydym yn ei chyhoeddi am ddim ar wefan golwg360 i bawb gael ei darllen. Byddwn yn codi’r wal dalu ar golofnau ac erthyglau’r cylchgrawn o bryd i’w gilydd, er mwyn i bawb gael blas o’r arlwy…

 

Roedd hi’n grêt dathlu’r fuddugoliaeth yn erbyn Wcráin… yn enwedig i rywun fel fi oedd yn Anfield yn 1977… yn fwy fyth i’r cefnogwyr selog sydd wedi dilyn Cymru i wledydd tramor a sawl siom dros y blynyddoedd.

Ond mae gen i apêl i Radio Cymru ac S4C, a gweddill y cyfryngau: byddwch yn gall, pediwch â’i gor-wneud hi rhag troi’r llwyddiant yn syrffed. A pheidiwch â chwalu’r drol yr ydech chi wedi neidio arni hi.

Gêm ydi pêl-droed a fydd yna ddim llai o dlodi plant o ganlyniad i lwyddiant Cymru, fydd prisiau ddim mymryn is, ddaw Rhyfel Rwsia yn Wcráin ddim i ben, fydd Qatar ddim yn troi’n wlad agored a fydd yna ddim mymryn llai o dai haf na mewnlifiad Saesneg.

Ond mi wnaiff y ffaith ein bod yn chwarae ar y lefel ucha’ yng Nghwpan y Byd wahaniaeth i ddelwedd Cymru’n rhyngwladol. Ac yn y ddelwedd honno y mae’r cynnydd mawr – nid oherwydd Cwpan y Byd ond oherwydd popeth a ddaeth cyn hynny.

Yn raddol bach, mae yna awyrgylch wedi cael ei greu o amgylch y tîm pêl-droed, a hynny’n well fyth o fod wedi dechrau mewn man go isel, pan oedd y Gymdeithas Bêl-droed yn hen ffasiwn a’r tîm yn ddi-ysbryd dan arweiniad anobeithiol dyn fel Bobby Gould.

Roedd Cymreictod go-iawn hefyd yn brin yn nelwedd y gêm a’r cefnogwyr yn fwy rhanedig nag yr oedden nhw’n gytûn. Yn nyddiau Gary Speed y dechreuodd y gwaith o broffesiynoli ac, unwaith yr oedd y seiliau’n gadarnach, o adeiladu’r ffenomenon bresennol.

Y datblygiad mwya’ syfrdanol ydi’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae honno bellach yn rhan o arfogaeth y tîm, yn un o’r pethau sy’n tynnu pawb ynghyd, yn hytrach na’u gwahanu nhw. A dyna le y gall hyn i gyd wneud gwahaniaeth.

Mi fydd yna bobol yn cael eu hysbrydoli i ddysgu’r iaith a, lawn cyn bwysiced, mi fydd pawb o bob cefndir yn gweld ei lle hi yn eu treftadaeth nhw. Mae’n gamp y mae ymgyrchwyr iaith a selogion byd wedi methu â’i chyflawni.

Felly, mae yna un set o bobol a ddylai fynd amdani 100% y funud yma: gwleidyddion Bae Caerdydd a’r gweision sifil sy’n gyfrifol am y Gymraeg. Mi ddylen nhw fanteisio ar gamp y tîm a’r Gymdeithas er mwyn cynyddu’r gefnogaeth i’r iaith ar bob lefel a throi hynny’n ennill ymarferol.

Mi fydd hynny’n golygu mwy na gwisgo crys neu het Cymru, mi fydd yn golygu’r un math o adeiladu diwyd, ymroddedig, trefnus ag y mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi’i ddangos, ymhlith pobol ifanc yn enwedig. Wedyn, gadael i’r bêl (a’r bobol) wneud y gwaith.

Un apêl arall i’r cyfryngau torfol: gwaharddwch ‘Yma o Hyd’ am gwpwl o fisoedd. Peidiwch â’i defnyddio hi er mwyn eich delwedd eich hun. Mae eisio ei chadw hi yn ei blas; mae eisio iddi barhau i fod yn rhywbeth arbennig sydd, bellach, yn eiddo i’r bobol, i bawb.