Ym mis Chwefror 2023, fe fydd hi’n 100 mlynedd ers i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig wneud ei darllediad cyntaf yng Nghymru, a hynny yng Nghaerdydd. Fe fydd hi’n bwysig dathlu cyfraniad y BBC i Gymreictod, yn ôl Rhuanedd Richards, y Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am holl gynnwys BBC Cymru yn Gymraeg a Saesneg.
“Mae John Davies yr hanesydd yn sôn yn ei lyfr anhygoel am hanes darlledu’r BBC yng Nghymru pa mor bwysig oedd y BBC trwy’r ganrif ddiwethaf wrth greu’r cysyniad, ac adeiladu ar y cysyniad hwnnw, bod Cymru’n genedl a’n bod ni’n gymuned,” meddai. “Bod y Cymry weithiau’n dod ynghyd, i ddathlu fel cenedl ar y maes chwarae ac yn y blaen. A bod y BBC yn y dyddiau cynnar hynny wedi bod mor allweddol wrth adrodd hanes hynny, wrth godi drych i Gymru i’w hun.
“Dw i’n meddwl ei fod yn rhywbeth gwerth ei ddathlu.”
Mae sefydliadau Cymraeg fel yr Urdd, a’r iaith Gymraeg, yn “hollol allweddol” i ddelwedd y BBC yng Nghymru, yn ôl Rhuanedd Richards. “I bawb sy’n talu’r ffi drwydded yng Nghymru, mae’n bwysig ofnadwy eu bod nhw’n teimlo bod y BBC yn perthyn iddyn nhw,” meddai.
“Ar hyd y blynyddoedd, mae’r BBC wedi bod yn weddol lwyddiannus yn hynny o beth. Mae hi wedi bod yn buddsoddi yn y Gymraeg, wrth greu uned wleidyddol pan ddaeth datganoli, wrth adlewyrchu chwaraeon cenedlaethol ar y meysydd chwarae… Y pethe hynny sy’n dangos bod y Gorfforaeth yma yng Nghymru yn adlewyrchu’r genedl. Mae’r Gymraeg yn rhan mor allweddol o’r stori yna.”
Wrth i batrwm demograffeg y Gymraeg newid drwy Gymru, mae BBC Cymru yn gorfod addasu ei gwasanaethau i gyd-fynd â’r newid, yn ôl Rhuanedd Richards.
“Dw i’n dod o gartref lle mai Saesneg oedd iaith y cartref a fy rhieni wedi dysgu Cymraeg yn hwyrach yn eu bywydau,” meddai. “Roedd yr Urdd yn rhan mor bwysig i fy mhlentyndod i, o deimlo bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith gymunedol. Wedyn mae’r BBC yn gorfod chwarae rôl debyg.
“Mae bodolaeth Radio Cymru ar hyd y degawdau diwethaf wedi dangos bod y Gymraeg yn gyfoes, yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd. Ry’n ni wastad wedi ceisio ymestyn allan i siaradwyr Cymraeg newydd, i ddysgwyr, i deuluoedd lle nad yw pawb yn y cartref nhw’n siarad Cymraeg, ac yn sicrhau bod ein darpariaeth ni yn medru cyrraedd yr holl bobol hynny, boed ar deledu, ar radio, neu ar-lein.
“Dyna’r her i ni – sicrhau ein bod ni ar y platfformau iawn, ar y cyfryngau iawn, a’n bod ni’n medru creu cynnwys sy’n medru apelio at bobol yn eang.”
Mae ffigurau gwrando Radio Cymru ar eu huchaf ers dros 12 mlynedd, ac mae hynny’n “anhygoel,” yn ôl Rhuanedd Richards. “Ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein gweld nid jyst yn gwahodd pobol i mewn,” meddai, “ond yn ymestyn allan dros Gymru gyfan.”
Rhaid i “weithlu’r dyfodol” gynnwys pobol o dros Gymru gyfan
Bu Rhuanedd Richards yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd ddechrau’r mis i gyhoeddi menter newydd gyda’r Urdd a fydd yn “creu gweithlu’r dyfodol”.
O fis Gorffennaf, fe fydd BBC Cymru – sy’n dathlu’r canmlwyddiant yn 2023 – yn agor drysau ei chanolfan ddarlledu newydd i griwiau ifanc canolfan breswyl yr Urdd ym Mae Caerdydd. Fe fydd y bobol ifanc yn cael cyfle i ddysgu am ddarlledu, sylwebu ar chwaraeon, cyflwyno’r tywydd a darllen auto-cue.
Mae Rhuanedd Richards eisiau cydweithio gyda’r Urdd am ei fod yn un o’r mudiadau hynny “sy’n ymestyn at holl gymunedau Cymru, y tu hwnt i unrhyw ffiniau ieithyddol, sy’n medru cyrraedd cartrefi Cymraeg a di-Gymraeg, cartrefi breintiedig a difreintiedig.”
“Ry’n ni fel sefydliad yn ceisio agor ein drysau i fod yn dryloyw ac yn groesawgar iawn yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud. Wedi’r cwbl, pobol Cymru sy’n talu am ein gwasanaethau ni drwy’r ffi drwydded. Mae creu partneriaethau felly gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobol yn eang, a chynrychioli cymunedau Cymru yn y ddwy iaith, yn gwbl hanfodol felly i’n cenhadaeth ni hefyd.
“Gan fod Canolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd, a phobol o bob cwr o Gymru yn aros yna, roedd hi’n gwneud synnwyr i ni ein bod ni’n rhan o’r profiad yna o ddod i’r brifddinas, a’u bod nhw’n gallu gweld sut mae creu cynnwys… Mae’n bwysig i fi bod gweithlu’r dyfodol yn cynnwys pobol o dros Gymru gyfan.”
“Cwbl hyderus” yn nyfodol Pobol y Cwm
Un o lwyddiannau Cymraeg BBC Cymru wrth gwrs yw’r gyfres sebon Pobol y Cwm. Yn ddiweddar cyhoeddodd BBC Studios eu bod nhw’n newid y modd maen nhw’n ei chynhyrchu, a fydd yn golygu diswyddiadau posib. Maen nhw am droi at staff llawrydd ar ôl i S4C ofyn am lai o benodau’r wythnos, gan “nad yw’n gynaliadwy i barhau gyda’r model staffio presennol”.
“Penderfyniad i S4C wrth gwrs yw sut mae eu harlwy a’u rhaglenni nhw’n edrych,” meddai Rhuanedd Richards wrth Golwg mewn ymateb i hyn. “Dw i’n gwbl hyderus yn nyfodol Pobol y Cwm.
“Beth sydd ganddon ni yn Pobol y Cwm yw cynnig solet, drama sy’n dal i gyrraedd cymaint o bobol bob wythnos, gyda dawn sgrifennu, dawn actio, criw technegol mwya’ anhygoel sy’n mynd yr ail filltir wastad dros eu cynulleidfaoedd nhw. Felly dw i’n gwbl hyderus bod yna ddyfodol cryf iawn gan y gyfres.”