Ddechrau’r wythnos wnaeth Boris Johnson lwyddo i gadw gafael ar ei swydd ar ôl ennill pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth, ond doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gyfforddus o bell ffordd.

Pleidleisiodd 211 o’r Aelodau Seneddol Torïaidd i gadw’r Prif Weinidog wrth y llyw.