Mae angen creu system ddarlledu ar lun newydd sbon i ateb gofynion Cymru, meddai’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.
Daw eu sylwadau wrth iddyn nhw groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ffurfio panel arbenigol i edrych ar ddatganoli darlledu.
Fe fydd y panel, dan arweiniad y darlledwr Mel Doel a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yn darparu argymhellion er mwyn cryfhau’r cyfryngau yng Nghymru a chreu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu.
Yr awdurdod hwnnw fyddai’n gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi’r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.
‘Hyrwyddo hunaniaeth, diwylliant a democratiaeth’
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, sy’n cynnwys aelodau fel Sharon Morgan, Beti George ac Angharad Mair, wrth golwg360 eu bod nhw’n falch o weld symud ymlaen gan Lywodraeth Cymru ar y polisi hwn.
“Rydyn yn ffyddiog y bydd y Panel Arbenigol hwn yn uchelgeisiol ac yn un a fydd â gweledigaeth Gymreig fydd yn gwarchod ac yn hyrwyddo hunaniaeth, diwylliant a democratiaeth pobl Cymru,” meddai.
“Mae angen creu system ddarlledu ar lun newydd sbon wrth edrych ar anghenion ac unigrywder ein cenedl ac rydyn ni fel Cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Pwyllgor i wireddu hyn. Mae hwn yn gyfle heb ei ail sydd angen ei gael yn gywir.”
‘Datganoli cyn gynted â phosibl’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyhoeddiad hefyd, gan ddweud ei fod yn “gam i’r cyfeiriad cywir”.
“Mae’n dda gweld bod bwriad i’r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu a ddaw yn sgil y panel baratoi’r achos dros ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru. Wrth reswm byddai’n well gyda ni petai’r Awdurdod cysgodol yn cael ei greu yn syth, mae’n gwbl amlwg bod angen datganoli darlledu cyn gynted â phosibl,” meddai Mirain Owen, is-gadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n 40 mlynedd ers sefydlu S4C eleni, ond dim ond un sianel sydd Gymraeg sydd gyda ni o hyd; ac wrth i bobol droi yn fwy at wylio ar blatfformau ar-lein mae cynnwys Cymraeg yn brin iawn. Mae dylanwad anferth gan blatfformau fel YouTube ar ddefnydd iaith, ar bobol ifanc yn enwedig.
“Rydyn ni wedi argymell creu Menter Ddigidol Gymraeg fyddai’n cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ar-lein ac yn arfogi pobl i greu eu deunydd eu hunain yn Gymraeg. Byddai’n bosibl sefydlu menter o’r fath nawr, felly galwn ar y Llywodraeth i wneud hyn yn gyfamserol er mwyn cryfhau darlledu Cymraeg yn ogystal â Chymreig.”