Byddai dychwelyd Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig i’r farchnad sengl yn “ateb syml” i helpu miloedd o deuluoedd sydd eisoes yn brwydro gyda’r argyfwng costau byw, yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Wrth siarad yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog, galwodd arweinydd Plaid Cymru ar Mark Drakeford i ymrwymo bod ei lywodraeth yn cefnogi polisi i ymaelodi â’r farchnad sengl – fel y mabwysiadwyd yn flaenorol mewn papur gwyn ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru.

Galwodd hefyd ar y Prif Weinidog i gyflwyno’r achos i Boris Johnson ac arweinydd yr wrthblaid Keir Starmer, gan dynnu sylw at y ffaith bod safbwynt Keir Starmer yn “amwys”.

Dywedodd Adam Price fod perygl i’r Torïaid ddechrau “rhyfel masnach” dros brotocol Gogledd Iwerddon, a dywedodd y byddai ail-ymuno â’r farchnad sengl yn “ateb ymarferol syml iawn” i’r heriau economaidd sy’n wynebu teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Cytunodd Mark Drakeford ei fod yn parhau i gredu “pe bai Cymru a’r Deyrnas Unedig y tu mewn i’r farchnad sengl, byddai’r holl rwystrau i fasnach a welwn yn gwneud cymaint o niwed i ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru ac i amaethyddiaeth Cymru yn cael eu dileu”.

Dywedodd Adam Price: “Mae aelwydydd a theuluoedd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gael trafferth gyda chostau ynni a bwyd cynyddol. Fydd rhwystrau i fasnach a phrinder sgiliau ond yn gwaethygu’r argyfwng costau byw.

“Pe na bai hynny’n ddigon drwg, mae perygl i’r Torïaid yn San Steffan greu ryfel masnach dros brotocol Gogledd Iwerddon, a fyddai nid yn unig yn plymio Gogledd Iwerddon i ansicrwydd gwleidyddol ond hefyd yn ychwanegu ymhellach at y boen economaidd y mae teuluoedd eisoes yn ei brofi ledled y Deyrnas Unedig.”