Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi eu gwrthwynebiad i ddatganoli darlledu, gan ddweud bod y “setliad presennol yn cynnig gwerth gwych am arian i drethdalwyr Cymru”.

Daeth eu sylwadau yn ystod dadl yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 14).

Yn ôl Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r setliad presennol yn golygu bod Cymru’n derbyn £70m yn fwy nag y mae’n ei wario yn y maes.

“Mae’r gefnogaeth hon yn golygu bod y teledu Cymreig gorau’n cael ei weld drwy’r Deyrnas Unedig a’r byd, sy’n cefnogi swyddi gartref y mae mawr eu hangen,” meddai.

“Ar adeg pan fod costau byw’n tyfu, dydy hi ddim yn gwneud synnwyr rhoi baich ar bobl yng Nghymru gyda ffi drwydded uwch a fyddai’n deillio o ddatganoli darlledu.”

‘Bydd y Gymraeg yn ffynnu ar deledu ac ar-lein’

“Caiff darlledu iaith Gymraeg ei gefnogi a’i gynnal yn llawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Sam Kurtz, llefarydd iaith Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig newydd roi £7.5m ychwanegol i S4C, sy’n golygu y bydd yr iaith Gymraeg yn ffynnu ar deledu ac ar-lein.

“Ddylai Llafur a Phlaid Cymru ddim gadael i’w hideoleg beryglu llwyddiant teledu Cymreig sy’n tyfu.”

‘Angen creu system ddarlledu ar lun newydd sbon i ateb gofynion Cymru’

Cadi Dafydd

Y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ffurfio panel arbenigol er mwyn edrych ar ddatganoli darlledu
Canolfan ddarlledu newydd BBC Cymru Caerdydd

Datganoli darlledu i Gymru “gam yn nes”, medd Plaid Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu