“Neb yn deffro ar awyren wag heno” oedd ymateb Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ar ôl i hediad i Rwanda gael ei ganslo ar yr unfed awr ar ddeg neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 14).

Roedd disgwyl i’r awyren gyntaf yn cludo ceiswyr lloches adael y Deyrnas Unedig am Affrica neithiwr, ond cafodd y daith ei chanslo funudau’n unig cyn gadael y maes awyr yn dilyn her gyfreithiol.

Roedd disgwyl i hyd at saith o bobol deithio ar yr awyren, ond fe wnaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop ymyrryd, wrth i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, ddweud ei bod hi’n “siomedig”, gan ychwanegu bod “y paratoadau ar gyfer yr hediad nesaf yn dechrau nawr”.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod ymyrraeth Ewrop yn dangos pa mor beryglus yw’r hediadau, gan ddweud na ddylid gorfodi neb ar awyren hyd nes bod y polisi’n cael ei graffu gan yr Uchel Lys.

Cynllun Rwanda

Yn ôl y cynllun dadleuol, a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan fis Ebrill, bydd ceiswyr lloches sy’n ceisio croesi’r Sianel yn cael eu hanfon ar eu hunion i Rwanda er mwyn ceisio lloches yno.

Yn ôl y Llywodraeth, bwriad y cynllun yw ceisio darbwyllo pobol eraill i beidio â chroesi’r Sianel i geisio lloches yn y Deyrnas Unedig.

Roedd disgwyl i awyren adael maes awyr yn Wiltshire am 10.30 neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 14), a hynny ar gost o ryw £500,000.

Ond daeth her gyfreithiol i achub un dyn toc ar ôl 7.30yh ac erbyn 10.15yh, roedd yr holl deithwyr wedi cael eu cludo oddi ar yr awyren, a honno’n dychwelyd i Sbaen.

Yn ôl y llys hawliau dynol, roedd perygl gwirioneddol i un dyn o Irac pe bai’n aros ar yr awyren ond roedd yr Uchel Lys yn Llundain wedi bod yn dadlau y gallai ddychwelyd o Rwanda pe bai ei achos yn llwyddo.

Ar yr unfed awr ar ddeg, penderfynodd Strasbourg fod un person wedi codi pryderon gwirioneddol am y cynllun, gyda’r llys yn dweud nad yw barnwyr yn y Deyrnas Unedig eto wedi edrych ar y sefyllfa’n iawn.

Apeliodd pawb arall ar yr awyren wedyn, a chafodd y gorchmynion i’w cludo i Rwanda eu hatal.

Ond dydy dyfodol y cynllun ddim yn glir o hyd.

Mae Llywodraeth Rwanda yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i’r cynllun o hyd, ac nad yw’r sefyllfa bresennol yn newid hynny.

‘Jumbo wag o bolisi’

“Neb yn deffro ar awyren wag heno,” meddai Liz Saville Roberts wrth ymateb neithiwr.

“Jumbo wag o bolisi, ond rhag cywilydd Llywodraeth Deyrnas Unedig Johnson fod hyd yn oed angen i Lys Hawliau Dynol Ewrop gwestiynu eu gweithredoedd.”

Mewnfudwyr

Polisi alltudio Rwanda yn “gwbl anfoesol”, medd ymgyrchwyr ar drothwy’r hediad cyntaf

Elin Wyn Owen

“Mae’n rhoi nhw mewn perygl eto pan ddylai ffoaduriaid gael croeso i rywle mwy diogel,” medd Cadeirydd Cymdeithas y Cymod