Mae oedi cyn symud cleifion o ysbytai yn arwain at “fethiannau eang” ar draws y gwasanaeth iechyd a gofal, meddai un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am weithredu ar unwaith i sicrhau nad yw cleifion yn gorfod aros cyhyd yn yr ysbyty ar ôl gwella o’u salwch.
Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor, mae’r argyfwng gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol yn golygu bod cleifion yn aros yn yr ysbyty am ddyddiau, neu wythnosau hyd yn oed, yn hirach nag sydd angen.
Mae hyn yn creu ôl-groniad yn y system gofal iechyd ac o ganlyniad, mae ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau brys am oriau, yn methu trosglwyddo cleifion sy’n ddifrifol wael ac yn methu helpu aelodau eraill o’r cyhoedd.
Dywed Russell George, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod yr ôl-groniad yn golygu bod miloedd o berthnasau a gofalwyr di-dâl yn gorfod dewis rhwng gadael rhywun yn yr ysbyty ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu.
“Mae clywed am ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys tra bod pobol sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol yn aros am oriau – a hynny weithiau’n arwain at ganlyniadau sy’n peryglu eu bywyd – yn peri pryder mawr,” meddai Aelod Ceidwadol Sir Drefaldwyn yn y Senedd.
“Oni chymerir camau radical i newid y ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a’i wobrwyo, a’r ffordd y telir amdano, nid ydym yn debygol o weld y newidiadau sydd eu hangen i atal cleifion rhag gorfod aros mewn ysbytai.
“Mae’n gwbl annerbyniol bod dros 1,000 o bobol mewn gwelyau ysbytai er y dylent fod wedi’u rhyddhau. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i ddatrys y broblem hon.”
Methu gadael yr ysbyty
Mae’r adroddiad yn cydnabod ei bod hi’n anodd mesur maint y broblem gan fod Llywodraeth Cymru wedi atal gofynion adrodd ynghylch achosion o ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’ ar ddechrau’r pandemig, ac wedi cyflwyno canllawiau newydd ar gyfer rhyddhau cleifion.
Ond mae’r adroddiad yn dweud y gall cyfnodau hir o aros mewn ysbytai heb fod angen achosi mwy o broblemau meddygol, gan fod y cleifion hynny’n fwy tebygol o ddal haint neu fynd yn rhy ddibynnol yn feddyliol ar eraill.
Aros am ambiwlans
Wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor, dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, nad oes nifer o ambiwlansys ar gael i’w defnyddio, ac yn sgil hynny, fod cleifion yn aros heb gymorth am “gyfnodau hir iawn”.
Fe wnaeth e gydnabod fod y gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig i gleifion yn “annerbyniol”, a’u bod nhw’n gwneud popeth yn eu gallu i wella’r sefyllfa.
Yn eu tystiolaeth i’r pwyllgor, rhybuddiodd Pwyllgor Meddygol Lleol Morgannwg fod meddygon teulu yn gyrru cleifion i’r ysbyty mewn ceir oherwydd prinder ambiwlansys.
Recriwtio staff gofal cymdeithasol.
Mae’r adroddiad yn nodi ei bod hi’n “gynyddol anodd” denu pobol i weithio ym maes gofal cymdeithasol a hyd nes y bydd y gweithlu’n cael ei drin yn gyfartal â’r gweithlu gofal iechyd, bydd y broblem yn parhau.
Er bod y pwyllgor yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ymdrin â’r problemau, gan gynnwys ymgyrch recriwtio a chyflwyno Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, maen nhw’n galw am gyflwyno newidiadau ychwanegol i dâl ac amodau gwaith y gweithwyr cyn gynted â phosib.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y bydd yn cynyddu’r nifer sy’n cael eu recriwtio i’r sector hefyd.
Dementia
Clywodd y pwyllgor fod angen gwell dealltwriaeth o anghenion pobol sy’n byw â dementia mewn ysbytai a’r ffordd orau o sicrhau bod y sefyllfa’n llai dryslyd iddyn nhw.
Mae’r adroddiad yn cyfeirio hefyd at dystiolaeth gan bobol a gafodd eu rhyddhau o’r ysbyty yn hwyr yn y nos, mewn ardaloedd lle nad oedd dim, neu fawr ddim trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn sgil hynny, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i dreialu slotiau rhyddhau penodol ar gyfer pobol sy’n byw â dementia i helpu cartrefi gofal, gofalwyr a theuluoedd gynllunio’n well ar eu cyfer.
Clywodd y pwyllgor am brofiad Angela Davies, sy’n gofalu’n ddi-dâl am ei thad, sydd yn byw â dementia.
“Cawsom alwad ffôn am 4 o’r gloch y prynhawn i ddweud bod fy nhad yn barod i ddod adref a’i fod yn iawn. ‘Doedd dim byd yn bod arno.. Grêt. Roedd yn gallu mynd i fyny’r grisiau’,” meddai Angela Davies.
“Roeddwn i’n gweithio, ond fe lwyddon ni i drefnu i’w nôl o am 6 o’r gloch. Roedd yn cael trafferth cerdded. Dywedodd yr ysbyty ei fod o’n sych. Doedd o ddim. Roedd yn socian erbyn iddo gyrraedd adref.
“Doedd o ddim yn gallu mynd i fyny’r grisiau, a bu’n rhaid iddo gysgu ar y soffa’r noson honno. Ni ddaeth neb o’r ysbyty i weld y cartref. Doedd dim angen pecyn gofal arno medden nhw. Doedd gennym ni ddim byd.”