Mae arweinwyr busnes wedi lansio ymgyrch er mwyn helpu’r gogledd i gyrraedd statws sero-net.
Yn ôl Cyngor Busnes y Gogledd a Glannau Merswy Dyfrdwy, sy’n gyfrifol am yr ymgyrch, mae ymgymryd ag agwedd amgylcheddol-gyfrifol yn gwneud synnwyr yn fasnachol hefyd.
Un o brif nodau’r grŵp, sy’n cynnwys entrepreneuriaid blaengar y gogledd, yw lobïo llywodraethau, awdurdodau lleol, a ffigurau allweddol mewn diwydiant a’u hannog i fuddsoddi ymhellach mewn datblygu technolegau carbon-niwtral.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys edrych ar faes ynni adnewyddadwy a datblygu cyflenwadau carbon isel, gan ystyried hydrogen fel ffynhonnell tanwydd bosib, gwella seilwaith ailwefru cerbydau trydan, a chynhyrchu ynni’n lleol, effeithlonrwydd ynni, a chynllunio ôl-osod ar gyfer eiddo.
Byddan nhw hefyd yn chwilio am ffyrdd o helpu’r sector trafnidiaeth i ddod yn llai dibynnol ar garbon, a meithrin economi gylchol i leihau gwastraff a hybu cynlluniau ailgylchu.
Dywed Ashley Rogers, prif weithredwr y Cyngor Busnes, fod cwmnïau o’r gogledd a sefydliadau dielw yn cyflwyno llais cryfach wrth gydweithio.
Cyfrannodd tua 30 o fentrau lleol at gyfarfod cyntaf Sero Net Gogledd Cymru, a dywedodd Ashley Rogers bod y busnesau’n cael eu cydnabod fel “arloeswyr lleol” wrth hyrwyddo ynni glân a dulliau cynaliadwy sy’n broffidiol.
‘Lobïo awdurdodau’
Dywed Clare Budden, prif weithredwr grŵp Tai ClwydAlyn a chadeirydd y Cyngor Busnes, ei bod hi’n gyffrous gweld cymaint o wahanol feysydd busnes yn y cyfarfod cyntaf.
“Mae’n hanfodol ein bod yn rhannu syniadau, yn lobïo awdurdodau dylanwadol ac yn meddwl am ffyrdd arloesol y gall cymuned gyfan ein rhanbarth elwa o’r ymgyrch i leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol,” meddai.
“Rwy’n falch o ddweud bod y sector tai cymdeithasol eisoes yn gweithio’n arloesol ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y ras i gyrraedd sero net yng ngogledd Cymru.
“Mae landlordiaid cymdeithasol yn buddsoddi symiau enfawr o arian i ddatgarboneiddio eiddo presennol ac adeiladu cartrefi carbon isel newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, sydd nid yn unig yn helpu o ran newid yn yr hinsawdd ond sydd hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ar yr un pryd.”
‘Caredig i’r amgylchedd’
Ymhlith y rhai oedd yn y cyfarfod cyntaf roedd Frankie Hobro, perchennog Sŵ Môr Môn, sydd wedi bod yn llafar dros yr angen i gyrraedd statws sero-net ers iddi gymryd yr awenau yn y sŵ dros ddegawd yn ôl.
Y sŵ yw acwariwm ynni solar gyntaf y Deyrnas Unedig, a dan ei harweinyddiaeth newidiodd y pwyslais o rywogaethau trofannol i rywogaethau brodorol Prydeinig.
“Dywedodd pobol fy mod i’n wallgof i gyflwyno rhywogaethau lleol yn unig ac nad oedd gan unrhyw un ddiddordeb ynddyn nhw ond mi wnes i eu profi nhw i gyd yn anghywir. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar yr un pryd â bod yn fwy moesegol a charedig i’r amgylchedd,” meddai.
“Mae ein holl ddŵr yn cael ei bwmpio i mewn o Afon Menai felly mae ein rhywogaethau morol yn byw mewn amodau hollol naturiol. Rydym yn fwy cynaliadwy ac rydym hefyd yn arwain prosiectau addysg gymunedol a chadwraeth forol gan gynnwys rhaglenni bridio mewn caethiwed gyda’r bwriad o ailgyflwyno rhywogaethau naturiol sydd mewn perygl yn ôl i’r gwyllt.
“Mae rhai o rywogaethau prinnaf y blaned yn byw ar garreg ein drws ond nid oes llawer o bobl yn gwybod hynny. Mae gennym ddau o’r rhywogaethau morfarch sydd yn y perygl mwyaf yma yn Ynys Môn. Rydym yn gweithio’n galed i’w bridio yn amgylchedd gwarchodedig y sw er mwyn i ni allu ailgyflwyno’r rhywogaethau hyn mewn niferoedd sylweddol yn ôl i’w cynefin naturiol yng ngogledd Cymru a thu hwnt.”
Cynnydd yn galw
Mae’r diddordeb mewn ynni adnewyddadwy wedi cynyddu’n sylweddol ar draws y gogledd, Glannau Merswy, Sir Caer a gogledd-orllewin Lloegr, yn ôl rheolwr-gyfarwyddwr cwmni ynni adnewyddadwy Carbon Zero.
“Ers Cynhadledd Newid Hinsawdd COP26, rydym wedi gweld y sefyllfa enbyd y mae ein planed ynddi, ynghyd â’r pwysau diweddar a osodwyd gan yr argyfwng costau byw,” meddai Gareth Jones.
“Felly, mae mwy o bobol yn symud tuag at ynni adnewyddadwy i bweru a gwresogi eu cartrefi a’u busnesau.
“Mae hynny ynddo’i hun yn newyddion da ond mae cymaint eto i’w gyflawni cyn y gall y wlad gyrraedd ei nod carbon niwtral. Dyna pam mae ymgyrch newydd Sero Net y gogledd mor bwysig.
“Os yw pandemig Covid wedi dysgu unrhyw beth i ni, yna gweithredu ar y cyd i gyflawni pethau yw hynny.”